En
ILS Partnership

Partneriaeth sy'n 'gwneud tonnau'


14 Mai 2024

Yn coleg Gwent, rydym ni’n ymrwymedig i greu cyfleoedd i’n holl ddysgwyr ffynnu, waeth beth eu galluoedd neu’r heriau efallai byddant yn eu hwynebu. Un esiampl o’r ymrwymiad hwn yw’r bartneriaeth ysbrydoledig rhwng tîm ILS ein campws Crosskeys a sefydliad nid er elw lleol, sef Multi-sport Social Health & Wellbeing. 

Dechreuodd y cyfan pan sylwodd Darlithydd ILS Andrea Hale ar gwmni o’r enw Multi-sport Social Health & Wellbeing mewn digwyddiad cymunedol lleol a gweld potensial yn eu gweithgareddau hyblyg. Mae’r cwmni nid-er-elw yn darparu amrywiaeth o weithgareddau dawns a chwaraeon yn y gymuned i’r rheini ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol. 

Gan gydnabod yr angen i ymgysylltu ein dysgwyr ag ymarfer corff a gweithgareddau cymdeithasol, ni wastraffodd Andrea amser yn estyn allan iddyn nhw.  

Gan fod tîm ILS yn ei chael hi’n anodd cael eu dysgwyr i gymryd rhan mewn ymarfer corff, cysylltodd Andrea â’r cwmni i drafod pa weithgareddau oedd ar gael. Ar ôl sesiwn flasu gyda’r dysgwyr, roedd yn amlwg y gallent gynnig yn union beth oedd y tîm ILS yn chwilio amdano. Ers hynny, mae effaith y bartneriaeth wedi bod yn rhyfeddol. Drwy weithio’n agos gyda’r cwmni, mae’r tîm ILS wedi gallu cynnig y cyfle i’w dysgwyr gymryd rhan mewn pêl-droed, rygbi, Zumba, nofio, dringo creigiau a syrffio. 

Mae Sarah Louise Davies, Arweinydd ILS, wedi gweld newid gwirioneddol yn y dysgwyr. Esboniai “Mae wedi rhoi hwb i’w hyder, mae’n eu galluogi i gymdeithasu y tu allan i’r coleg ac mae wedi eu cyffroi ynghylch ymarfer corff. Rydym hefyd wedi canfod ei fod wedi grymuso rhieni i fynd â nhw i’r gweithgareddau hyn yn ystod hanner tymor a gwyliau.”  

Dywedodd un dysgwr: “Rhywbeth gwahanol i’w wneud oedd e, profiad da.” Dywedodd un arall: “Roedd e’n hwyl, cyfle i wneud rhywbeth gwahanol na fydda i’n cael unrhyw le arall.”  

ILS Partnership

Nid yw effaith y bartneriaeth hon yn gyfyngedig i’r coleg yn unig, mae hefyd yn cefnogi’r gymuned ehangach. Llwyddodd Multi-sport Social Health and Wellbeing i sicrhau gwerth £96,0000 o arian loteri gyda chefnogaeth y Tîm ILS a’u dysgwyr. Gyda’i gilydd, gwnaethant lunio cais am y cyllid, a oedd yn cynnwys tystebau cadarnhaol gan ddysgwyr. Mae’r arian hwn bellach wedi’i roi yn ôl i wella eu cyfleusterau ac ehangu’r ystod o weithgareddau sydd ar gael ar gyfer ein dysgwyr ac aelodau o’r gymuned. 

Yn Coleg Gwent, credwn yn gryf bod cydweithio a chynwysoldeb yn offer pwerus a ellir eu defnyddio i greu newid cadarnhaol ac ystyrlon. Mae partneriaeth ein tîm 

ILS â Multi-sport Social Health & Wellbeing yn enghraifft ddisglair o’n hymrwymiad i ddarparu profiadau cyfoethogi sydd yn grymuso dysgwyr o bob gallu i gyrraedd eu potensial llawn. 

I gael rhagor o wybodaeth am ein darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, ewch i: Cefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol