17 Medi 2023
Mae dychwelyd i addysg yn hwyrach mewn bywyd yn benderfyniad mawr. Bob blwyddyn, cawn ein hysbrydoli gan gannoedd o ddysgwyr sy’n oedolion a ddaw yn ôl i’r coleg i newid eu stori. Fodd bynnag, gallai rhai mythau a phryderon cyffredin fod yn eich poeni. Felly, darllenwch ymlaen ac fe awn ati i chwalu rhai ofnau a chamdybiaethau cyffredin gan ddysgwyr sy’n oedolion a dangos i chi sut brofiad ydyw mewn gwirionedd…
Os ydych chi’n poeni am fod yn rhy hen i fynd i’r coleg neu deimlo allan o’ch cynefin ymhlith y bobl ifanc, nid chi yw’r unig un! Ond nid dyna realiti bywyd coleg chwaith. Mae ein cymuned yn un sy’n llawn pobl o bob oed, gyda dysgwyr aeddfed yn eu hugeiniau, tridegau, pedwardegau, cyn belled â’u saithdegau. Mae llawer o ddysgwyr sy’n oedolion yn poeni mai pobl ifanc yn eu harddegau sy’n ffres o’r ysgol fydd o’u cwmpas ac na fyddant yn ffitio i mewn yn y coleg. Ond mae’r dosbarthiadau’n llawer mwy amrywiol nag y byddech yn ei ddisgwyl. Fel coleg addysg bellach, credwn fod dysgu yn broses gydol oes ac rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed bob blwyddyn. Felly nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd, boed yn gwrs hobi rhan amser neu’n radd sylfaen.
Mae rhai myfyrwyr aeddfed yn poeni y bydd dysgu pethau newydd yn rhy anodd neu na fyddwch chi’n gallu ymdopi â’r gwaith yn y dosbarth. Efallai eich bod yn poeni am addasu i ddysgu eto ar ôl bod o’r ysgol am nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, rydym ni’n gwybod bod gan ddysgwyr sy’n oedolion y gallu i ddysgu’n arbennig o dda. Yn y coleg, rydych chi’n dewis astudio pwnc sy’n eich diddori ac sy’n eich ysgogi, felly mae’n amgylchedd gwahanol iawn i’r ysgol. Mae ein campysau yn cynnig offer a chyfleusterau o safon diwydiant, ac mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr ar eu meysydd pwnc – cyfuniad delfrydol ar gyfer llwyddiant! Mae dod yn ôl i’r coleg fel oedolyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi ddysgu, cyflawni eich nodau, ehangu eich gorwelion, a gwireddu eich potensial.
Er bod y coleg yn amgylchedd dysgu annibynnol, ni chewch eich bwrw i’r dwfn. Y dysgwr sy’n dod yn gyntaf bob amser, felly fe gewch arweiniad gan diwtoriaid a chynnig help pryd bynnag y bydd ei angen arnoch chi. Mae cymorth ar gael ar bob un o’n campysau, ac mae staff wrth law i’ch helpu i addasu ac ymdopi â chydbwyso eich astudiaethau â’ch bywyd tu allan i addysg. Bydd gennych diwtor personol pwrpasol i roi cymorth academaidd a bugeiliol, a bydd yno i gynnig clust i wrando a’ch cyfeirio at rwydweithiau cymorth yn y coleg. Mae ein llyfrgellwyr bob amser yn hapus i’ch helpu gyda sgiliau astudio ar gyfer aseiniadau ac mae ein gwasanaeth Togetherall yn cynnig adnoddau i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles hefyd.
Rydym ni’n gwybod bod gennych chi, fel oedolyn, gyfrifoldebau ac ymrwymiadau y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’ch astudiaeth, boed hynny’n ymwneud â magu plant, gofalu am eich teulu, neu ennill arian i dalu’r biliau. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o ymrwymiadau eraill, felly maen nhw’n garedig, yn gefnogol ac yn hyblyg. Gydag ystod o gyrsiau llawn amser a chyrsiau rhan amser uwch ar gael, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel bod modd i chi ddychwelyd i’ch addysg a’ch breuddwydion. Mae cyrsiau rhan-amser uwch yn fodd i chi astudio rhaglen amser llawn mewn llai o oriau, felly gallwch ennill cymwysterau mewn ffordd sy’n addas ar gyfer eich ffordd o fyw. Efallai y byddwch yn gymwys i gael grantiau a chymorth ariannol i’ch helpu gyda chostau astudio hyd yn oed.
Bob blwyddyn, mae cannoedd o ddysgwyr sy’n oedolion yn goresgyn rhwystrau ac yn ymuno â ni yn Coleg Gwent gyda chyrsiau sy’n gweithio o gwmpas eich bywyd chi. Rydym hyd yn oed yn cynnig Cyrsiau Mynediad i AU sydd wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr aeddfed, er mwyn eich ailgyflwyno i’r ystafell ddosbarth a’r cymwysterau sydd eu hangen i lwyddo.
Dewch i’n digwyddiad agored nesaf i ddysgu mwy am fod yn fyfyriwr aeddfed yn y coleg lle mae’n gweithio i chi!