En

Coleg Gwent yn arwain ymestyn rhaglen beirianneg i ysgolion yn ne Cymru


19 Tachwedd 2024

Ysbrydoli sêr STEM y dyfodol

Ar sail ymdrech Llywodraeth Cymru i ddenu arbenigedd STEM i Gymru, mae 27 o ysgolion yn ne Cymru ar fin dod yn safleoedd lansio ar gyfer creu gweithlu o beirianwyr yn y dyfodol – fel rhan o raglen a arweinir gan Coleg Gwent. 

Mae’r coleg addysg bellach wedi cyhoeddi y bydd 22 o ysgolion ychwanegol yn ne Cymru yn cael budd o brosiectau addysg beirianneg (HiVE).  

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn llwyddiant pedwar hyb HiVE ac un hyb mini HiVE sydd eisoes ar waith yn Ysgol Gyfun Tredegar, Cymuned Dysgu Ebwy Fawr, Cymuned Ddysgu Abertyleri, Ysgol Sylfaen Brynmawr ac Ysgol Gymraeg Bro Helyg. 

Diolch i gyllid gan raglen Cymoedd Technegol Llywodraeth Cymru, mae’r ysgolion newydd sy’n ymuno â’r rhaglen yn cynnwys Ysgol Gyfun Heolddu, Ysgol Uwchradd Islwyn, Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga, Ysgol Lewis i Ferched ac Ysgol Abersychan yn ogystal â 23 o ysgolion cynradd yn ardal Blaenau Gwent. 

Nod y rhaglen yw cyflwyno peirianneg i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd cyn iddynt gyrraedd addysg bellach.  

Gan roi’r adnoddau perthnasol i ysgolion, bydd Coleg Gwent yn darparu ystod o arfau sy’n gysylltiedig â STEM i gefnogi myfyrwyr ar eu llwybr at lwyddiant ym maes peirianneg –  gan gynnwys deunyddiau roboteg, gliniaduron o’r radd orau ar gyfer Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD), electroneg a chitiau rhaglennu, ceir sy’n defnyddio pŵer gwyrdd, cyfarpar, peiriannau argraffu 3D a chitiau LEGO. 

Mae’r prosiectau, a leolir mewn ysgolion, yn rhan o’r cyfleuster addysg Peirianneg Gwerth Uchel Ôl-16 (HiVE) – mae HiVE yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Coleg Gwent a phartneriaid diwydiant. Mae HiVE yn gyfleuster addysg o’r radd flaenaf sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd ar hen safle Ffatri Monwel yng Nglyn Ebwy a fydd yn hyfforddi myfyrwyr Coleg Gwent mewn disgyblaethau peirianneg uwch megis roboteg, deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, gweithgynhyrchu awtonomaidd, efelychu a realiti estynedig. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, sydd wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu prosiect HiVE, yn cefnogi’r ymgyrch i ehangu’r rhaglen ysgolion fel rhan o’i Brosiect Hwyluso STEM, hefyd a ariennir trwy raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru. Mae Swyddog Cyswllt HiVE wedi cael ei benodi i gefnogi’r ysgolion o ran defnyddio cyfarpar hybiau HiVE.  

Hefyd, bydd cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu yn yr ysgolion dan sylw ar gyfer cymhwyster BTEC Peirianneg Lefel 2 ar gyfer TGAU gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i faes peirianneg ym mlynyddoedd 7 i 9. 

Dywedodd John Sexton, Pennaeth Cynorthwyol yn Coleg Gwent: Trwy ehangu ein rhaglen hybiau mini HiVE a hybiau HiVE, rydym yn gobeithio cyflwyno mwy o ddisgyblion i faes peirianneg yn ifancach, gan eu hysbrydoli i ystyried llwybrau dilyniant i HiVE.

“Nod Coleg Gwent yw paratoi gweithlu’r dyfodol mewn cyfleuster arbenigol a fydd yn rhoi mynediad i ddysgwyr at dechnoleg o’r radd flaenaf ac arloesedd sy’n adlewyrchu safonau diwydiant. Gobeithiwn y bydd ehangu’r hybiau HiVE a’r hybiau mini HiVE yn parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.” 

Ymwelodd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, â’r Ganolfan HiVE presennol yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr i ddathlu’r Diwrnod Peirianneg Cenedlaethol.

Meddai: Mae’r rhaglen Canolfannau HiVE yn ymdrech gydweithredol gyda nifer o sefydliadau’n cydweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran dysgu a diddordeb mewn pynciau STEM ar draws Cymoedd De Cymru. Mae ein cefnogaeth i addysg a sgiliau STEM yn hanfodol i’n huchelgais ar gyfer economi fwy arloesol a chynhyrchiol yng Nghymru. Fel cyn-beiriannydd fy hun, rwy’n deall cymaint y bydd y cyfleoedd a’r sgiliau sydd ar gael yn yr Hybiau HiVE arloesol hyn yn golygu i gymaint o’r genhedlaeth nesaf o beiriannwr.

“Roeddwn yn falch iawn o gael cwrdd â rhai o sêr STEM y dyfodol yng Nglyn Ebwy, a chyhoeddi bod y rhaglen bwysig hon yn ehangu. Rydym am i Gymru fod yn genedl lle nad oes rhwystrau o ran mynediad at gyfleoedd STEM ar bob lefel o addysg.

Parhaodd Lee Perrott o Ysgol Gyfun Tredegar: “Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r arweiniad gan Coleg Gwent wedi ein galluogi i brynu adnoddau o’r radd flaenaf a defnyddio cymorth gan y coleg i lwyddo i gyflwyno Peirianneg fel pwnc Cyfnod Allweddol 4 fel rhan o gynllun ysgolion hybiau HIVE. Rydym hefyd wedi ymweld â Pharth Dysgu Blaenau Gwent i gael profiad o astudio Peirianneg ar Lefel 3 ac mae hyn wedi ysbrydoli llawer o’n dysgwyr i ddilyn llwybrau Peirianneg a llwybrau STEM eraill yn Coleg Gwent.”   

Mwy o wybodaeth am ddatblygiad HiVE.