24 Awst 2023
Yma yn Coleg Gwent, rydyn ni’n dathlu cyfraddau llwyddo gwych dosbarth 2023. Eleni, rydyn ni wedi gweld cyfradd lwyddo arbennig o 92% ar gyfer Mathemateg TGAU (6.5% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol), a chyfradd lwyddo ragorol o 97% ar gyfer Saesneg TGAU (4% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol).
Da iawn i’r holl ddysgwyr sydd wedi gweithio’n galed iawn i lwyddo a chyflawni eu graddau.
Yn Coleg Gwent, mae gan ddysgwyr gyfle i ailsefyll eu harholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg wrth astudio ar gyrsiau academaidd neu alwedigaethol ar lefel uwch. Mae llawer o resymau pam bod pobl yn dewis gwneud hyn megis heb ennill y canlyniadau roedden nhw eu heisiau y tro cyntaf, dymuno uwch-sgilio, ehangu opsiynau gyrfa neu gynyddu eu siawns o gael lle yn y brifysgol. Beth bynnag yw’ch rhesymau a’ch amcanion, gall Coleg Gwent eich helpu chi i gyrraedd eich nod.
Dywedodd Mark Harding, Pennaeth Saesneg, Mathemateg a Sgiliau yn Coleg Gwent: “Rydym wrth ein boddau o ran y graddau pasio eithriadol ar gyfer canlyniadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad a gwaith caled y dysgwyr a’r arweiniad arbenigol a roddir gan ein tiwtoriaid pwnc. Llongyfarchiadau enfawr i’r holl dysgwyr ar eu llwyddiant haeddiannol heddiw.”
Bydd nifer o fyfyrwyr nawr yn edrych ymlaen at gael dechrau astudio gyda ni fis Medi, a chymryd y camau nesaf o fewn eu taith addysgiadol at gyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. Braf fydd cael eich croesawu chi i wythnos y glas fis Medi. Os nad ydych wedi gwneud cais eto, mae gennych amser i ymuno â ni. Felly ewch amdani i wneud cais ac osgoi cael eich siomi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld fis Medi.