4 Rhagfyr 2023
Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl eleni (03 Rhagfyr), mae Coleg Gwent yn amlygu rhai o’r myfyrwyr sydd wedi cymryd y cam i ymgymryd ag interniaethau â chymorth yn Ysbyty Nevill Hall drwy’r cynllun Gwerth Profiad Gofal.
Fel menter a sefydlwyd drwy bartneriaeth o ddarparwyr ac addysgwyr gofal iechyd lleol — gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru — nod y cynllun Gwerth Profiad Gofal yw annog rhagor o fyfyrwyr o Dde Cymru i ddilyn rolau mewn gofal iechyd. Yn ogystal â’u helpu i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, nod arall y cwrs yw anelu at ddatblygu cenhedlaeth newydd o ymgeiswyr mawr eu hangen yn y diwydiant gofal iechyd.
Bydd rhan o’r cynllun yn gweld y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, o blith cwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) Coleg Gwent, yn ymgymryd ag interniaethau â chymorth am dridiau’r wythnos yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni.
Mae’r dysgwyr wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â staff cyfleusterau mewn amrywiaeth o wahanol rolau, gan gynnwys porthorion, glanhawyr, gwesteiwyr ward, derbyn a dosbarthu mewn storfeydd, gwasanaethau gweinyddol, a chofnodion meddygol.
Dyma’r drydedd flwyddyn i Ysbyty Nevill Hall fod yn rhan o’r cynllun, gyda staff yr ysbyty yn ogystal â dysgwyr yn elwa o’r bartneriaeth.
Soniodd Luke Porter, dysgwr sy’n cymryd rhan yn yr interniaeth ar hyn o bryd ac sy’n gweithio yn yr adran cofnodion iechyd, am ei brofiad: “Rwy’n hoffi gweithio yn adran cofnodion yr ysbyty, oherwydd mae’n amgylchedd heddychlon, ac mae’r staff i gyd yn gyfeillgar ac yn gynorthwyol iawn.
“Rydw i wedi dod yn llawer mwy hyderus ers dechrau’r rôl ac rwyf wedi ennill sgiliau cymdeithasol a rheolaeth, a fydd yn fy helpu i ddod yn llawer mwy annibynnol.”
Dywedodd Harley Jones, dysgwr arall sy’n cymryd rhan yn yr interniaeth ar hyn o bryd ac sy’n gweithio ar ddesg y dderbynfa: “Fy hoff ran o’r swydd yw cael cwrdd a helpu pobl bob dydd — person pobl ydw i, felly rydw i wrth fy modd yn bod o gwmpas cymaint o bobl newydd.
“Mae gweithio ar y dderbynfa wir wedi fy helpu i fagu fy hyder a gwella fy sgiliau gwaith — rydw i nawr eisiau cael swydd ran-amser a symud ymlaen at swydd llawn amser yn y pen draw.”
Dywedodd Sophie Rimmer, Darlithydd ILS yn Coleg Gwent: “Mae bod yn rhan o’r fenter Gwerth Profiad Gofal yn bwysig iawn i ni yn Coleg Gwent. Deallwn y gwerth o allu darparu’r offer i ddysgwyr lleol ar gyfer gyrfa foddhaol yn y dyfodol ym maes gofal iechyd.
“Mae’r dysgwyr sy’n cymryd rhan yn yr interniaethau â chymorth yn enghraifft wych o faint y gellir ei ennill o’r rhaglen — mae wedi bod yn wych gweld eu hyder yn cynyddu dros yr wythnosau diwethaf. Nid yn unig yw’r rhaglen yn darpru cyfle i fyfyrwyr ennill profiad yn y byd go iawn wrth astudio yn Coleg Gwent, ond mae hefyd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y dyfodol ar ôl coleg. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn parhau i ddatblygu drwy gydol gweddill y cwrs.”
Am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth anghenion dysgu ychwanegol a gynigir yn Coleg Gwent, ewch i: https://www.coleggwent.ac.uk/support/additional-learning-needs