26 Mawrth 2025
I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir, mae Coleg Gwent yn falch o rannu taith ysbrydoledig Dion, sef cyn-ddysgwr Sgiliau Byw’n Annibynnol (Independent Living Skills – ILS) sydd wedi llwyddo i ennill cyflogaeth ar ôl interniaeth a gefnogwyd yn Ysbyty Nevill Hall.
Mae’r rhaglen interniaeth yn cael ei goruchwylio gan Coleg Gwent a’i chefnogi gan randdeiliaid y bartneriaeth Gwerth Profiad Gofal leol ehangach, sef partneriaeth rhwng darparwyr ac addysgwyr gofal iechyd a chymdeithasol lleol sydd â’r nod o annog rhagor o fyfyrwyr yn Ne Cymru i fynd ar ôl swyddi yn y maes gofal iechyd a chymdeithasol.
Fe wnaeth Dion, 23, ymuno â Coleg Gwent yn 2017, lle dilynodd gwrs blwyddyn o hyd mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol. Ar ôl y cwrs, fe symudodd ymlaen i’r cwrs ILS Lefel Mynediad 3 mewn Astudiaethau Galwedigaethol (Llwybr 3) lle astudiodd nifer o bynciau megis coginio, garddwriaeth, iechyd a hamdden a TGCh.
Gyda diddordeb brwd mewn ennill lleoliad gwaith, fe symudodd Dion ymlaen unwaith eto gan ymuno â’r cwrs ILS Paratoi ar gyfer Interniaeth a Gefnogir i helpu chwalu rhwystrau i’r gwaith. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, fe gafodd Dion gynnig o raglen interniaeth yn Ysbyty Bevill Hall lle y bu’n gweithio’n agos â’r adran cofnodion iechyd, gan arbenigo mewn digideiddio cofnodion y GIG.
Mae dysgwyr Coleg Gwent sydd ar y rhaglen interniaeth a gefnogir yn ennill profiad ymarferol mewn ysbytai amrywiol, sydd yn cynnwys gweithgareddau megis porthora, glanhau, cynnal wardiau a chymorth gweinyddol.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i Ysbyty Nevill Hall fod yn rhan o’r fenter, gyda staff a dysgwyr fel ei gilydd yn elwa o’r bartneriaeth. Yn y flwyddyn academaidd hon, mae yna 11 o interniaid Coleg Gwent ar leoliad ar hyn o bryd.
Ar ôl cwblhau ei interniaeth, fe wnaeth Dion sicrhau prentisiaeth 18 mis yn yr adran, ac mae disgwyl iddo ei chwblhau ym mis Mai. Yn fwy diweddar, mae Dion wedi cael cynnig cyflog parhaol y mae bellach wedi’i derbyn.
Meddai Dion: “Dw i wrth fy modd gyda’r gwaith rwy’n gwneud. Ro’n i arfer bod yn eithaf nerfus a doeddwn i ddim eisiau gweithio mewn ysbyty. Nawr rwy’n teimlo’n hyderus yn fy swydd a dw i ddim eisiau gadael. Mae pontio o fod yn fyfyriwr i brentis wedi mynd yn esmwyth. Rwy’n dwli ar ddysgu am y tasgau newydd.
“Mae’r rhaglen hon wedi helpu fi i archwilio opsiynau gyrfa ac ennill hyder yn y gweithle. Yn gyntaf roedd yn edrych yn frawychus, ond rydw i wedi datblygu cymaint o sgiliau newydd erbyn hyn.
Yn ogystal â’i gyfrifoldebau beunyddiol, mae Dion wedi ymgymryd â’r rôl o fentora dysgwr ISL newydd.
Dywedodd: “Rwy’n deall pa mor frawychus mae’n teimlo i ddechrau swydd a bod yn newydd, felly rydw i wedi bod yn mentora dysgwr newydd a’i helpu i bontio’n esmwyth i’w swydd.
Amlygai Rachel Edwards, sef Rheolwr Cynorthwyol Ysbyty Nevill Hall, yr effaith gadarnhaol y mae Dion wedi’i chael ar y tîm: “Rydym ni wedi dysgu cymaint oddi wrth ein gilydd, ac mae’n dod â chymaint o bethau cadarnhaol. Mae cael Dion yma wedi gwneud i ni ystyried y ffordd rydym ni yn addysgu a sut y gallwn ni fod yn fwy cynhwysol. Mae wedi bod yn eithriadol ac mae bellach yn rhan o’r teulu cofnodion iechyd.
Meddai Gary Handley, sef Pennaeth Cynorthwyol Coleg Gwent: “Mae taith Dion yn enghraifft ardderchog o beth mae dysgwyr ILS yn gallu’i gyflawni gyda’r cymorth a’r cyfleoedd priodol. Trwy gyfleoedd sydd wedi’u haddasu’n ofalus megis lleoliadau gwaith uwch, interniaethau a gefnogir a gwaith cymuned-seiliedig, rydym yn helpu dysgwyr i fagu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn gosodiadau byd go iawn. Rydym yn hynod falch o lwyddiannau Dion a’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar ei gyfoedion a’i gydweithwyr.
I ddysgu rhagor am sut mae Coleg Gwent yn cefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol ac yn agor drysau i gyfleoedd gyrfa cyffrous, ewch i’n gwefan.