28 Mehefin 2018
Chi. Ie, CHI. A ydych chi erioed wedi ystyried newid gyrfa? Neu ddysgu sgil newydd? Neu awydd ail-sefyll eich TGAU Saesneg neu Fathemateg? Yna gall Coleg Gwent eich helpu chi.
Swnio’n dda, ond siawns mai rhywbeth ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed yw coleg?
Anwir, mae 2,511 o’n myfyrwyr dros 18 oed. Mae ein myfyrwyr yn amrywio o 16-65+ o ran oedran, felly rydych mewn cwmni da. Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir ac o bob oed; nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau eich taith coleg gyda ni. A oeddech chi’n gwybod</strong> ein bod yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru, a’r gorau yng Nghymru am gyrsiau galwedigaethol? Felly, rydym yn gwybod ein pethau. Os ydych chi’n dymuno dysgu am y byd gwaith yna gallwch astudio ein cwrs Astudiaethau Busnes. Os ydych chi erioed wedi ystyried bod yr ochr arall i’r camera yna pam na wnewch chi edrych ar ein cwrs ffotograffiaeth? Yn dymuno dysgu iaith newydd fel y gallwch greu argraff ar eich gwyliau? Yna mae gennym Ffrangeg Sbaeneg ar gael.
Dyma gyfran fechan o’r nifer fawr o bynciau sydd gennym ar gael. Mae gennym dros 150 o gyrsiau i chi ddewis o’u plith i’ch helpu i ennill sgiliau busnes proffesiynol, troi diddordeb yn yrfa a pharatoi eich hun ar gyfer cyflogaeth. Gallwch bori drwy ein catalog cyrsiau llawn yma Llwyddodd 99% o’n myfyrwyr yn 2017, a oedd yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU. Pam na wnewch chi ymuno â nhw.
Pam ddylwn i ddewis Coleg Gwent?
Rydym yn falch eich bod wedi gofyn. Gan fod gennym bum campws ar draws sir Gwent (yn fwy penodol Blaenau Gwent Casnewydd Crosskeys, Pont-y-pŵ), mae’n debygol fod yna gampws yn agos atoch chi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi astudio’n annibynnol yn agos i adref, gan sicrhau llai o deithio a chostau. Hefyd, os ydych chi’n cofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau llawn amser, gallwch elwa o’n rhaglen Cyfoethogi. Mae’r rhaglen hon yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau megis llythrennedd digidol, datrys problemau a chynllunio; sgiliau y mae prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio amdanynt (gan roi mantais i chi dros ymgeiswyr eraill!). Yn ogystal ag ennill sgiliau gwerthfawr ochr yn ochr â’ch astudiaethau, gallwch wirfoddoli, cymryd rhan mewn cystadlaethau ac ymuno â chymdeithasau’r coleg; pethau gwych i ychwanegu at eich CV. Gyda diddordeb? Ymholwch heddiw