En

Coleg Gwent yn cynnal gwibdaith addysgol dramor arloesol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol


26 Gorffennaf 2024

Mae Coleg Gwent yn dathlu’r 68 o ddysgwyr sy’n astudio ar ei gyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol — yn dilyn gwibdaith addysgol lwyddiannus i Paris a Chantilly.

Mae’r profiad unigryw hwn yn garreg filltir ar gyfer addysg yng Nghymru oherwydd Coleg Gwent yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i drefnu gwibdaith dramor yn benodol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol.

Wedi’i chyflawni mewn cydweithrediad â sefydliad LEARN a’i hariannu gan Taith, rhoddodd y wibdaith gyfle i 10 dysgwr, â sbectrwm eang o anghenion dysgu ychwanegol, brofi nifer o bethau am y tro cyntaf, gan gynnwys teithio y tu allan i’r DU, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phrofi teithio mewn awyren.

Roedd ymweld â Thŵr Eiffel a Disneyland Paris yn uchel ar amserlen y wibdaith, ochr yn ochr â gwersi ymarferol megis llywio system metro Paris, bod mewn torfeydd mawr a threulio cyfnod estynedig o amser i ffwrdd o’u rhieni.

Roedd y wibdaith yn rhan o gwricwlwm Sgiliau Byw yn Annibynnol ehanach y coleg, sy’n anelu at roi’r sgiliau hanfodol angenrheidiol i ddysgwyr fyw yn annibynnol yn y gymuned – gan gynnwys rheoli arian, coginio, cynllunio gyrfa a meithrin hunan-barch.

Dywedodd rhiant Curtis, sy’n astudio ar Brif Raglen y cwrs Sgiliau Byw yn Annibynnol: “Dyma daith gyntaf Curtis hebof i felly roedd llawer o emosiynau cymysg ond roeddwn i’n gwybod y byddai’n daith oes.

“Er ei fod yn nerfus ar y dechrau, roedd e wrth ei fodd. Mae yn sicr wedi ei helpu i fod yn fwy annibynnol.

“Rwy’n gwybod, os bydd cyfle i fynd ar daith arall, y byddai yn sicr yn dymuno mynd arni. Hoffwn ddweud diolch yn fawr wrth yr holl diwtoriaid sydd wedi helpu i dawelu fy meddwl trwy anfon diweddariadau ataf yn rheolaidd yn ystod y daith!”

Meddai Jonathan Smith, Pennaeth yr Ysgol Sgiliau Byw yn Annibynnol yn Coleg Gwent: “Roedd ein gwibdaith dramor gyntaf yn llwyddiant ysgubol. Wynebodd ein myfyrwyr amrywiaeth o heriau, megis rheoli torfeydd, defnyddio trafnidiaeth anghyfarwydd, byw yn annibynnol a thrin arian. 

“Yn dilyn llwyddiant y daith hon – ac yn ysbryd Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd – gobeithiwn drefnu llawer mwy o deithiau tebyg. Mae’n ffordd wych ac ymarferol o alluogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol i feithrin sgiliau annibyniaeth hanfodol – sgiliau sy’n gallu cael eu cymhwyso yn eu bywydau academaidd a’u bywydau personol.

“Mae hwn yn gyflawniad aruthrol i bawb a gymerodd ran ac ni allaf fod yn fwy balch o fod yn rhan o gymuned sy’n ymdrechu’n barhaus i gefnogi dysgwyr mewn ffyrdd hwylus sy’n ennyn diddordeb.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Sgiliau Byw yn Annibynnol Coleg Gwent, cliciwch yma.