10 Mawrth 2023
Mae myfyrwyr Coleg Gwent wedi cystadlu yn erbyn cannoedd o gystadleuwyr eraill ar draws y wlad fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Eleni, arddangosodd 113 o fyfyrwyr eu gallu, eu cymhwysedd a’u gwybodaeth gan ennill cyfanswm o 17 o fedalau yng nghategorïau aur, arian ac efydd.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio, meincnodi a chynyddu eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu yn y gweithle a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol sydd wedi’u halinio â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.
Esboniodd Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau, Richard Wheeler, “Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, nid yn unig, yn ffordd wych o wella eich sgiliau technegol ond, hefyd, y sgiliau cyflogadwyedd allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer cystadleuaeth megis perfformio dan bwysau, rheoli amser, cynllunio a datrys problemau.
Yn amlwg, caiff y sgiliau hyn eu profi yn ystod cystadleuaeth a, gyda chymorth eich tiwtoriaid yn Coleg Gwent, gallwch chi eu hymarfer ynghyd â’r sgiliau technegol yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth. Mae Coleg Gwent yn gweithio’n galed i ymgorffori cystadlaethau yn rhan o’r cwricwlwm a chodi’r safon ar draws ei ddarpariaeth o lefel cymhwysedd i lefel rhagoriaeth.”
Trwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, gall myfyrwyr fagu eu hyder, ennill profiad gwerthfawr, dysgu gan arbenigwyr diwydiant ac, yn bennaf, ddod yn fwy cyflogadwy ar ôl gadael y coleg. Bydd cynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar eich CV yn eich amlygu wrth gyflwyno cais am swydd ac, nid oes gennym unrhyw amheuaeth, y bydd ein myfyrwyr yn llwyddiannus yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol!
Dathlu’r rhai o Coleg Gwent a enillodd fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2023
Llongyfarchiadau i’n 17 o fyfyrwyr a enillodd fedalau aur, arian ac efydd a da iawn i bawb a gymerodd ran eleni:
Aur:
Arian:
Efydd:
O harddwch a thrin gwallt i gelf gemio 3D ac atgyweirio corff cerbydau, rydym yn falch bod ein myfyrwyr wedi rhoi 110% wrth arddangos y sgiliau y maent wedi’u datblygu wrth astudio ar gwrs yn Coleg Gwent.