17 Mai 2019
Beth yw Career Colleges?
Bwriad Career Colleges yn benodol yw cynnig cyrsiau sy’n cefnogi’r galw rhanbarthol am sgiliau a hyfforddiant. Cynllunnir cynnwys y cwrs gan gyflogwyr er mwyn i’r llwybrau technegol a galwedigaethol hyn sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau, y wybodaeth a’r dysgu sydd eu hangen arnynt i’w gwneud yn fwy cyflogadwy.
Gan fod Career Colleges yn darparu cysylltiadau agosach â’r diwydiant, mae hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r galw am fwy o gyfleoedd i gael profiad o’r byd gwaith a helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn genedlaethol.
Sut mae Coleg Gwent yn chwarae rhan?
Mae’r cynllun yn canolbwyntio llawer ar gynnig lleoliadau dysgu seiliedig ar waith i fyfyrwyr fel rhan o’u cyrsiau a bydd Coleg Gwent yn partneru â rhai o gyflogwyr mwyaf yr ardal i sicrhau y caiff cyrsiau eu teilwra i’w gofynion parhaus ar gyfer gweithwyr.
Bydd yn canolbwyntio ar swyddi yn y sectorau digidol a gofal, gan arbenigo mewn cynllunio cyrsiau ochr yn ochr â busnesau lleol a rhanbarthol a fydd yn bodloni gofynion y farchnad waith benodol honno orau.
Pam dewis Career Colleges?
Gwnaeth Ymddiriedolaeth Career Colleges gyfweld â mwy na 1,000 o bobl ifanc yn ddiweddar, ac roedd bron hanner ohonynt yn dweud nad oeddynt wedi cael cynnig unrhyw brofiad gwaith gan eu hysgolion, ac roedd hanner ohonynt wedi trefnu lleoliad gwaith eu hunain.
Sut y bydd hyn o fantais i gyflogwyr?
Bydd dysgwyr yn gadael y rhaglen gyda phortffolio o gymwysterau a phrofiadau sy’n golygu eu bod yn barod i weithio gyda’r cyflogwyr sydd wedi bod o gymorth wrth ddatblygu’r cyrsiau.
Ble ydw i’n cofrestru?
Dylai unrhyw ddarpar gyflogwyr yn y sectorau digidol a gofal iechyd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y fenter hon gysylltu â marketing@coleggwent.ac.uk