3 Rhagfyr 2019
Mae unigrwydd yn her y mae nifer o bobl ifanc yn ei hwynebu, ac mae’r Coleg yn cymryd camau i geisio mynd i’r afael â’r her honno. Mewn Diwrnod Bydi a gynhaliwyd yn ddiweddar ar Gampws Pont-y-pŵl, daeth grŵp bychan o ddysgwyr o bob rhan o’r Coleg ynghyd i siarad ynghylch unigrwydd cymdeithasol a sut mae delio â’r her. Cafwyd gweithgareddau a oedd yn cynnwys creu collage, ysgrifennu stori, a chwarae rôl, gan roi’r cyfle i gyfranogwyr ddatgloi’r pwnc o unigrwydd a datblygu rhai sgiliau i’w oresgyn. Yn dilyn y trafodaethau hyn, aeth y dysgwyr ymlaen i greu rhestr o syniadau a all gael eu cyflwyno ar eu campws. Bydd staff yn cynnig cefnogaeth i ddysgwyr wrth iddynt ddatblygu’r syniadau hyn dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Rhywbeth gwych arall a ddaeth o’r diwrnod oedd y ffaith bod hyder y dysgwyr wedi tyfu. Ar ddechrau’r diwrnod, roedd rhai dysgwyr yn ei chael hi’n anodd siarad o fewn y grŵp, ond erbyn y diwedd, roedd pawb yn cyfrannu ac yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Dywedodd un dysgwr, “Nid yw siarad am broblemau yn eich gwneud yn wan; mae’n eich gwneud yn gryf”, dywedodd un arall “Rwyf am siarad â rhywun newydd gan fod dod i adnabod pobl yn her imi.
Roedd y cyfeillion a gymerodd ran wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi magu hyder ac yn fwy brwd dros ddod yn asiantwyr i greu newid ar eu campysau.
Mae unigrwydd yn her fawr nad yw’n mynd i ddiflannu dros nos. Fodd bynnag, gyda phobl ifanc yn teimlo’n fwy grymus a hyderus, bydd unigrwydd yn lleihau, a gyda’n gilydd, byddwn yn creu amgylchedd lle ceir mwy o gynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Prosiect Bydi, cysylltwch â Ruth Israel