En

O gyn-fyfyriwr Coleg Gwent i raddio o’r brifysgol


14 Ionawr 2025

Mae EGIS, sef arweinydd byd-eang yn y meysydd ymgynghori a pheirianneg, yn amlygu addysg bellach ei weithwyr fel y rheswm y tu ôl i’w dwf busnes – gydag aelod o gyn-fyfyrwyr Coleg Gwent yn chwarae rhan allweddol yn 2024.

Dechreuodd Ben Roberts, o Bont-y-pŵl, ar ei yrfa drwy astudio BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn Coleg Gwent yn 2017 cyn symud ymlaen i gymwysterau Addysg Uwch HNC a HND.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae Ben yn dathlu cwblhau gradd mewn Mesur Meintiau a Rheolaeth Fasnachol — y cyfan tra’n cael ei gyflogi fel Rheolwr Masnachol Cynorthwyol yn EGIS.

Meddai Thomas Menzies, sef Pennaeth Masnachol Cymru a’r Gorllewin yn EGIS: “Mae cefnogi addysg gweithwyr yn bwysig i ni gan ei fod yn darparu ein staff â’r sgiliau a’r wybodaeth i allu cyflawni eu rolau — gan sicrhau i’n cleientiaid y bydd y rheini sydd yn gweithio ar eu prosiectau yn ennill cydnabyddiaeth broffesiynol ar y lefel briodol, ac y byddant yn gallu gwasanaethu eu prosiectau yn effeithiol.

“Mae hefyd yn rhoi cyfle i’n pobl ddatblygu a meithrin eu gyrfaoedd, gan agor cyfleoedd newydd iddyn nhw eu dilyn yn y dyfodol.”

Ers ennill 2:1 o Brifysgol De Cymru, mae Ben, yn ystod cyflogaeth weithredol, wastad wedi chwilio am gyfleoedd i ennill ac astudio ar yr un pryd.

Meddai Ben: “Roedd fy nhaith gyda Coleg Gwent wedi gadael imi ennill gwybodaeth ehangach o’r byd adeiladu a throsglwyddo’r wybodaeth a enillwyd i fy niwrnod gwaith. Roedd hefyd yn golygu fy mod yn gallu cwblhau fy nghwrs gradd mewn dwy flynedd, yn hytrach na thair, drwy gydnabod fy addysg a chymwysterau blaenorol a enillais yn Coleg Gwent”.

Myfyriodd Thomas, sef rheolwr Ben, ar yr effaith gadarnhaol mae llwyddiant Ben wedi’i chael yn EGIS: “Bydd gradd Ben mewn Mesur Meintiau yn cael effaith gadarnhaol ar ein tîm a’n sefydliad ehangach mewn sawl ffordd. Bydd y cymhwyster yn rhoi’r sgiliau iddo allu datblygu ei yrfa; bydd hefyd yn darparu sicrwydd i’n cleientiaid o ystyried aelodau tîm cymwys yn cyflwyno eu prosiectau ac yn gosod esiampl i ddechreuwyr newydd ac aelodau staff iau sydd yn edrych i ennill cymwysterau proffesiynol.

“Dyna pam mae EGIS yn darparu cymorth addysgol i weithwyr mewn pedair ffordd—ysbaid o’r diwrnod gwaith i’n pobl gael dysgu; rhwydwaith eang o staff profiadol ar gael i ateb cwestiynau a darparu cyngor ac arweiniad; profiadau bywyd go iawn wrth iddyn nhw weithio’n agos gyda’n cleientiaid i gyflwyno seilwaith cymhleth; a symudedd a hyblygrwydd.”

Yn ogystal, mae Ben yn canmol Coleg Gwent am wella ei gyflogadwyedd a’i helpu i gyrraedd ei rôl bresennol trwy gysylltiadau gwerthfawr â chyflogwyr a phrofiad ymarferol — a enillwyd trwy’r prentisiaethau yr ymgymerwyd â hwy ochr yn ochr â’i astudiaethau.

Meddai: “Rwyf wedi dod yn bell, o ddechrau prentisiaeth â chontractwr bach i ddod yn rheolwr masnachol cynorthwyol yn gweithio ar brosiectau gwerth miliynau o bunnoedd. Ni fyddwn ar y cam hwn o fy ngyrfa heb y wybodaeth, y gefnogaeth a’r cyfleoedd prentisiaeth a ddarparwyd gan Coleg Gwent ar hyd fy siwrnai addysgol. Rwy’n annog unrhyw un sy’n ystyried uwchsgilio neu ennill cymhwyster newydd i’w ddilyn —mae’n fuddsoddiad hirdymor ynddoch chi’ch hun.”

Meddai Dan Coles, sef Is-bennaeth Partneriaethau a Thaith y Dysgwr yn Coleg Gwent: “Yn Coleg Gwent, rydym yn falch o gynnig ystod amrywiol o gyrsiau addysg uwch a all agor rhwydweithiau proffesiynol ac ehangu cyfleoedd. Mae’n ardderchog gweld cyn-fyfyrwyr fel Ben yn cymhwyso’r wybodaeth, y cymwysterau a’r profiad ymarferol a enillwyd tra yn y coleg i ennill gyrfa lewyrchus o fewn ei sector o ddewis – yn enwedig pan fo’r wybodaeth a gasglwyd o astudio yn Coleg Gwent yn golygu y gallech gael eich rhoi ar lwybr carlam i’ch gyrfa ddelfrydol.”

I roi hwb i’ch gyrfa yn adeiladu, dewch o hyd i’n hystod o gyrsiau neu cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad agored nesaf i gael rhagor o wybodaeth.