23 Tachwedd 2022
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi fod Coleg Gwent wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Beacon AoC, sy’n glod mawr. Mae’r gwobrau’n dathlu’r ymarfer gorau a mwyaf arloesol ymysg colegau addysg bellach yn y DU, a chafodd ein menter Coleg Seibr Cymru ei henwebu ar gyfer y Wobr Edge ar gyfer Rhagoriaeth mewn Dysgu Byd Go Iawn.
Gyda chymorth y Sefydliad Edge, mae’r wobr yn cydnabod enghreifftiau rhagorol o addysgu a dysgu ymarferol, gan arddangos arloesedd, cynaliadwyedd ac effaith. Mae’r Wobr Edge yn dathlu mentrau sy’n uwchsgilio pobl i ateb galw ein heconomi byd-eang a digidol, drwy gwricwlwm eang a chytbwys, hyfforddiant o ansawdd da, cynnwys dysgu bywyd go iawn, a pherthnasoedd cyfoethog rhwng addysg a chyflogwyr.
Ein henwebiad – Coleg Seibr Cymru
Ochr yn ochr â bod yn goleg Aur Seibr yn Gyntaf, mae Coleg Seibr Cymru yn enghraifft ragorol o arfer gorau ac arloesedd, gan gyfuno cwricwlwm ein coleg â phrofiad y diwydiant. Mae dysgwyr yn cael sesiynau wythnosol gyda chyflogwyr mawr fel Thales, Fujitsu ac Admiral, sy’n gweithio gyda cholegau i gau bylchau sgiliau. Mae cynnwys y cyflogwyr hyn yn nyluniad a chyflawniad y cwricwlwm yn golygu y gallwch gymhwyso eich dysgu i senarios cyflogaeth go iawn, gan ategu eich datblygiad sgiliau.
Mae’r prosiect yn datblygu’r piblinell talentau seibr y dyfodol drwy gydweithrediad o golegau ac arbenigwyr y diwydiant, sy’n golygu ei fod yn gyfle euraidd os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa seibr. Drwy fentora proffesiynol, mae Coleg Seibr Cymru yn helpu dysgwyr yng Nghymru i ffynnu ar y llwybr gyrfa newydd hwn, gan uno mewnwelediad y diwydiant gydag addysg ‘orau o’i math’. Mae’n eich paratoi chi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant seibr drwy roi’r sgiliau sylfaenol, y profiad a’r ddealltwriaeth sydd ei hangen arnoch i fwrw ymlaen at y brifysgol, cyflogaeth neu brentisiaeth.
Drwy Goleg Seibr Cymru, rydym yn meithrin pobl ifanc â safbwyntiau ffres, syniadau arloesol, a brwdfrydedd dros y sectorau digidol a seibr. Mae gan fyfyrwyr fynediad i brofiadau dan arweiniad cyflogwyr buddiol iawn, fel bod modd iddynt ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy i symud yn llwyddiannus at gyflogaeth. Mae’r bartneriaeth ddiwydiant effeithiol hon yn meithrin talentau newydd, gan ein helpu i fodloni anghenion gweithlu’r sector.
Twf Coleg Seibr Cymru
Mae’r enwebiad gwobr hwn yn cydnabod y ffordd y mae Coleg Seibr Cymru wedi tyfu ac yn parhau i ddatblygu’r piblinell talent seibr drwy gydweithrediad o golegau a phartneriaethau proffesiynol. Dywedodd Mark White OBE DL, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol AoC:
“Mae Gwobrau Beacon AoC yn arddangos yn union pam fod colegau mor bwysig i bob cymuned a pham fod pobl yn eu gwerthfawrogi. Mae’r wobr hon yn cydnabod enghreifftiau o addysgu a dysgu ymarferol ardderchog. Mae gwaith y rhai yn y rownd derfynol yn dangos pa mor bwysig yw colegau o ran rhoi’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer y byd go iawn.”
Yn ystod blwyddyn beilot Coleg Seibr Cymru, roedd dwy garfan o ddysgwyr o ddau goleg yn dilyn un ai cymhwyster BTEC Lefel 3 Cyfrifiadureg neu Dechnoleg Gwybodaeth. Yn yr ail flwyddyn, ymunodd coleg arall gyda 99 o ddysgwyr yn cymryd rhan yn y fenter, ac yn y drydedd flwyddyn, bu i 130 o ddysgwyr ymgysylltu â Choleg Seibr Cymru mewn pedwar coleg gwahanol.
Bellach, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld i ble fyddwn ni’n mynd yn ystod blwyddyn pedwar, ac yn gyffrous i weld pwy fydd yn ennill y Wobr Edge ar gyfer Rhagoriaeth mewn Dysgu Byd Go Iawn. Bydd enillwyr y Wobr Beacon AoC yn cael eu cyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2023.
Rhagor o wybodaeth am Goleg Seibr Cymru a’n cyrsiau digidol a seibrddiogelwch arbenigol yng Ngholeg Gwent.