19 Mehefin 2020
‘Parch at Bawb’ yw un o brif werthoedd Coleg Gwent, ac mae’n bwysig i ni fod pawb yng nghymuned y coleg yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu parchu, eu cefnogi a’u clywed. Yn fwy na dim, rydyn ni’n goleg cynhwysol ac amrywiol lle mae croeso i bawb.
Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth ac yn hybu cynhwysiant ar draws ein pum campws, o ddathlu Mis Hanes LGBTQ, i wella hygyrchedd ein gwefan, i helpu ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau drwy Hwb Cyrhaeddiad Casnewydd
Mae un o Lywodraethwyr ein Coleg, Hamed Amiri, yn angerddol am newid canfyddiadau pobl, yn enwedig rhai ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yn ddiweddar, mae wedi ysgrifennu llyfr – The Boy with Two Hearts: A Story of Hope – a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mehefin, i ysbrydoli pobl ifanc o unrhyw gefndir i gyflawni eu potensial a byw bywyd yn llawn, dim ots beth.
Mae’r llyfr yn seiliedig ar brofiad Hamed ei hun fel ffoadur, yn symud o’i gartref yn Affganistan i’r DU gyda’i deulu yn ystod cyfnod o argyfwng. Mae’n sôn am fywyd ei fam yn cael ei fygwth am siarad yn erbyn arweinwyr ffwndamentalaidd eu gwlad a hyrwyddo hawliau ac addysg i fenywod, ynghyd â chais taer y teulu i helpu ei frawd, Hussein, a oedd angen cymorth meddygol arbenigol ar gyfer cyflwr prin ar y galon.
Roeddent yn teithio fel ffoaduriaid i geisio lloches a gofal meddygol yn y DU, gan wynebu perygl a dioddefaint ar hyd y ffordd. Ond gwthiodd y teulu ymlaen yn erbyn popeth, wedi’i sbarduno gan gyflwr dirywiol Hussein a’r cyfle i gael triniaeth a allai achub ei fywyd ym Mhrydain.
Gan esbonio pa mor bwysig oedd adrodd hanes Hussein, iddo ef a’i deulu, dywed Hamed “nid yw’r stori ond amdanom ni a’n brwydr dros ryddid ac achub Hussein. Mae’n stori am obaith a gwydnwch ac am fywyd cariadus, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd. Yn fwy na hynny, mae’n ymwneud â dynoliaeth ac mae’n llythyr caru at y GIG a’r cyfan a wnaethant dros Hussein”.
Mae Hamed yn parhau i gefnogi’r uned gardiaidd yn Ysbyty Prifysgol Cymru mewn diolchgarwch am bopeth a wnaethant i helpu ei frawd, a bydd ei lyfr yn ysbrydoli cenedlaethau gyda stori anhygoel ei deulu. Mae A Boy with Two Hearts eisoes wedi ymddangos ar Newyddion y BBC a mae wedi’i ddewis fel Llyfr yr Wythnos ar Radio 4 o 29 Mehefin, ac yn cael ei ddarllen gan Sanjeev Bhaksar.
Llongyfarchiadau i Hamed ar lwyddiant ei lyfr! Ond yn bwysicach fyth, diolch am rannu eich stori ysbrydoledig gyda ni a dangos i ni, waeth beth yw eich cefndir, y gallwch gyflawni eich potensial a byw bywyd i’r eithaf. Rydym wir yn credu fod ein gwahaniaethau yn cyfoethogi cymuned Coleg Gwent ac yn ein helpu i ddatblygu parch i bawb!
Rydym yn frwd dros hyrwyddo cynwysoldeb, waeth beth yw eich oedran, rhyw, anabledd, hil/ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd/ffydd/cred, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd/mamolaeth neu statws briodas/partneriaeth sifil. Ac rydym yn ymfalchïo yn ein cymuned dderbyniol a blaengar, lle gall ein dysgwyr a’n staff derbyn pwy ydyn nhw a bod yn pwy ydyn nhw heb ofn.
Os ydych chi’n ddysgwr Coleg Gwent sydd wedi cael ei effeithio gan unrhyw un o’r materion yn y stori hon, gallwch gael cymorth a chyngor drwy’r deilsen cymorth ar CG Connect.