En

Allai 2025 fod y flwyddyn rydych chi’n dod yn hunan-gyflogedig?


18 Chwefror 2025

Wrth i entrepreneuriaeth yng Nghymru brofi twf aruthrol ers 2023*, mae Coleg Gwent yn annog pobl yn ne Cymru i ddilyn eu breuddwydion am hunangyflogaeth yn 2025. 

O gyrsiau academaidd rhan-amser i fodiwlau ar gyfer hobïau, mae’r coleg yn cynnig llawer o gyfleoedd i feithrin sgiliau – i helpu unigolion i ennill yr wybodaeth a’r hyder angenrheidiol i lwyddo. 

Ar ben hynny, mae’r cyrsiau hyn wedi’u dylunio gan gadw hyblygrwydd mewn cof – er mwyn cydbwyso dysgu â phethau eraill mewn bywyd, os yw hynny’n ofal plant, yn swydd ran-amser neu’n ymrwymiadau eraill. 

Yn 2023, penderfynodd Damiano Argentieri (31 oed) ddechrau ar ei daith tuag at hunangyflogaeth ym myd ffitrwydd trwy gofrestru ar gwrs Tystysgrif mewn Hyfforddiant Campfa Lefel 2. Ers hynny, mae wedi symud ymlaen i gwblhau amrywiaeth o gyrsiau eraill, gan gynnwys, Diploma mewn Tylino, cwrs Hyfforddi Ymarfer Corff Grŵp Lefel 2, cwrs Pwysau Tegell Lefel 2, a chwrs Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3. 

Gan weithio tuag at ei gymhwyster Ymarferydd Hyfforddiant Personol Lefel 3 ar gampws Brynbuga Coleg Gwent, dywedodd Damiano: “Roedd dychwelyd i’r coleg fel oedolyn ychydig yn heriol ar y dechrau oherwydd roeddwn yn pryderu am ymgartrefu a chadw ar ben yr astudio – ond roedd Coleg Gwent wedi gwneud y broses bontio yn esmwyth. 

“Dewisais fynd i’r coleg yn lle mynd i’r brifysgol oherwydd roeddwn yn dymuno cael mwy o brofiad dysgu ymarferol. Roeddwn yn hoffi’r ffaith fod y cwrs yn fyrrach ac yn fwy fforddiadwy na gradd yn y brifysgol felly gallwn ddechrau fy ngyrfa yn gynharach – a rhoddodd y cwrs yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn dechrau fy musnes hyfforddiant personol fy hun.” 

Gan reoli ei amser yn ofalus ochr yn ochr â’i astudiaethau, roedd modd i Damiano barhau i gynnal ei fusnes bwyty amser llawn tan yn ddiweddar pan benderfynodd gau drysau’r siop i ganolbwyntio’n llawn ar ei yrfa fel hyfforddwr ffitrwydd. 

Dywedodd: “Un o’m hoff atgofion o’m cwrs yn Coleg Gwent yw ennill Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac AoC ar gyfer Hyfforddiant Personol. Roeddwn yn falch o hynny a theimlais fod fy ngwaith caled wedi bod yn werth chweil.” 

Mae Laura Pietkiewicz, a ddaeth yn ôl i astudio yn y coleg yn 26 oed, hefyd yn astudio yn Coleg Gwent – ei nod yw datblygu ei busnes harddwch a therapïau cyfannol.  

Wrth siarad am ei phrofiad o astudio ar y cwrs Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol, dywedodd: “Am fy mod yn fam sengl, roedd yn rhaid i mi ddod o hyd i rywbeth a oedd yn fy ngalluogi i astudio’n hyblyg gan ofalu am fy mab a rhedeg fy musnes ar yr un pryd. Rwy’n cofio edrych ar wefan Coleg Gwent a gweld y cwrs rwy’n astudio arno nawr – roedd hynny’n arwydd ac rwyf heb edrych yn ôl.  

“Byddwn yn argymell fy nghwrs a Coleg Gwent i unrhyw un sy’n dymuno newid ei fywyd, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am rywbeth y tu hwnt i’r swyddi 9am tan 5pm arferol. Os oes gennych chi syniadau creadigol a hoffech chi eu gwireddu neu hyd yn oed os ydych chi’n fam sengl sy’n ceisio symud ymlaen, heb os, dyma le y gallwch chi ddod o hyd i’ch trywydd cywir.” 

Dysgwr arall sy’n dymuno dilyn trywydd hunangyflogaeth yn 2025 yw Viktoria Horvathne Csuhai, 31 oed – sy’n astudio’n rhan-amser ar gwrs Cadw Cyfrifon yn Coleg Gwent.  

Dywedodd Viktoria: “Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn Hwngari, dywedodd fy athro Mathemateg nid cyfrifeg oedd y pwnc i mi ond, pan symudais i’r DU, penderfynais fynd ati i ddysgu eto.   

“Ar y dechrau, roedd cadw rheolaeth ar bopeth yn anodd ond mae fy rwydwaith cefnogi cryf a’r tiwtoriaid gwych yn Coleg Gwent wedi fy helpu i ffynnu a sefydlu cydbwysedd da. Credaf mai hwn yw’r cam cyntaf i gyfeiriad newydd i mi.”   

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent: “Yma yn y coleg, rydym yn credu nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu – os hoffech chi newid eich gyrfa, dechrau eich busnes eich hun neu ddatblygu angerdd a diddordebau.  

“Mae cofrestru ar gwrs rhan-amser am ddim neu gwrs rhan-amser fforddiadwy yn ffordd wych o astudio’n hyblyg wrth ennill y sgiliau ymarferol, yr wybodaeth a’r hyder angenrheidiol i gymryd y cam nesaf ar daith yrfa neu daith addysgol 

“Mae ein cyrsiau rhan-amser yn dechrau ac yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac, yn aml, rydym yn profi oedolion yn dychwelyd i astudio ar gyrsiau ychwanegol wrth iddynt wella yn eu meysydd. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o oedolion sy’n barod i gychwyn ar fenter newydd i’n campysau yn 2025 – os ydynt yn 18 oed neu’n 80 oed.” 

I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau rhan-amser sydd ar gael yn Coleg Gwent, ewch yma.