Beth am ddod ar daith rithwir o amgylch ein campysau?
Mae gennym ystod o gyfleusterau o safon diwydiant o’r radd flaenaf ar ein pum campws, i’ch helpu i ddysgu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich gyrfa ddewisol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn drama, cerddoriaeth a dawns, byddwch yn darganfod theatrau a stiwdios cerddoriaeth ble gallwch serennu ar y llwyfan. Gallech brofi cegin broffesiynol yn ein bwyty gweithgar; gofalu am anifeiliaid ar y fferm ac yn ein canolfannau gofal anifeiliaid a gofal ceffylau; a gweithio gyda chleientiaid gwirioneddol yn ein salonau gwallt a harddwch. Neu beth am ddod yn rhan o bethau yn ein hadrannau adeiladu a pheirianneg; cymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd chwaraeon; a bod gam ar y blaen gyda’n labordai seiber ac ystafelloedd MAC?
Edrychwch o amgylch ein campysau a gweld y cyfleusterau gwych gyda’n taith rithwir 360 o’n campysau o gysur eich cartref eich hunan!
Parth Dysgu Blaenau Gwent
![BGLZ](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2019/10/BGLZ_360.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Campws Dinas Casnewydd
![Newport campus](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2019/10/Newport-360.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Campws Crosskeys
![Crosskeys campus](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2019/10/crosskeys-360.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Parth Dysgu Torfaen
![Torfaen Learning Zone building](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2020/12/tlz-building-main.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Campws Brynbuga
![Usk campus](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2019/10/usk-360.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)