Gwnewch y dewis cywir ar gyfer eich dyfodol gyda'ch canllaw cwrs ar-lein
Mae dewis y coleg cywir yn benderfyniad pwysig, ac yma yn Coleg Gwent, rydym yma i wneud pethau’n haws i chi. Mae eich prosbectws digidol wedi’i gynllunio i ddarparu’r holl wybodaeth hanfodol am ein cyrsiau, campysau, a chyfleoedd, er mwyn i chi wneud y dewis cywir ar gyfer eich dyfodol chi.
Gyda'ch prosbectws digidol, gallwch:
- Personoli eich profiad:
Addasu’r cynnwys i weddu i’ch diddordebau penodol, o gyrsiau, cymorth a bywyd coleg. - Mynediad unrhyw bryd, unrhyw le:
Mae eich prosbectws digidol ar gael ar unrhyw ddyfais, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. - Aros yn gyfredol:
Mwynhewch yr wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau a diweddariadau mewn amser real. - Arbed eich dewisiadau:
Creu cyfrif a mewngofnodi unrhyw bryd a rhannu gyda theulu a ffrindiau.

Dechreuwch eich taith gyda ni
Archwiliwch gyrsiau, cymorth a bywyd coleg gyda’ch prosbectws digidol!
Pam digidol?
Llai o effaith a llai o wastraff. Oeddech chi’n gwybod bod y DU yn cynhyrchu 12.1 miliwn tunnell o wastraff papur bob blwyddyn?* Wel, rydyn ni’n gwneud ein rhan i newid hynny! Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o dorri’n ôl ar y deunyddiau printiedig a ddefnyddiwn yn unol â’n targed o allyriadau sero net erbyn 2030.
Angen mwy o gymorth?
Gallwch gysylltu â’n tîm cyfeillgar recriwtio myfyrwyr sydd ar gael i helpu drwy sgwrs we, ffonio 01495 333 777, neu anfon e-bost at helo@coleggwent.ac.uk.