En

Cyfrifon Dysgu Personol

Manteisiwch ar gyrsiau HYBLYG, AM DDIM mewn amrywiaeth o ddiwydiannau

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn gyrsiau am ddim sy’n rhoi sgiliau a chymwysterau newydd i chi – rhai y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt – i’ch helpu chi i fanteisio ar brinder sgiliau a chael eich gyrfa i symud.

Yn well fyth, maent yn hyblyg –bydd y coleg yn gwneud ei orau glas i gwrdd ag anghenion pawb wrth gynllunio’r dyddiadau a’r amseroedd y cynhelir y cyrsiau. Mae’r colegau yn hyblyg a’u nod fydd darparu’r dysgu o amgylch ymrwymiadau teuluol a gwaith unigolio.

Pwy all wneud cais am Gyfrif Dysgu Personol?

Rhaid i chi:

  • Fyw yng Nghymru
  • Fod yn 19 oed neu’n hŷn
  • Bod yn gyflogedig (gan gynnwys asiantaethau neu gontractau dim oriau) neu Hunan-gyflogedig or Gofalydd amser llawn (gan gynnwys heb dâl)
  • Ac nid yw eu cyflog blynyddol sylfaenol yn uwch na £32,371

Porwch ein cyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol yn ôl sector diwydiant:

Cwestiynau Cyffredin

  1. I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen, mae’n rhaid bod unigolion yn:
  • byw yng Nghymru yn gyfreithlon
  • 19 oed neu’n hŷn
  1. Yn ogystal, mae’n rhaid bod unigolion yn:
  • gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaethau a Dim Oriau) neu’n
  • hunan-gyflogedig neu’n
  • ofalwyr amser llawn (gan gynnwys heb dâl)

AC nid yw eu cyflog blynyddol sylfaenol yn uwch na £32,371

  1. Dyfernir unigolion yn anghymwys os ydynt ar adeg cyflwyno’r cais:
  • dan 19 oed neu’n
  • mynychu’r ysgol, addysg bellach neu addysg uwch yn amser llawn neu’n
  • dilyn rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu’n
  • wladolyn dramor anghymwys neu’n
  • derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu
  • Yn ddi-waith (nad oes gennych gontract cyflogaeth)

Gall unigolion wneud cais uniongyrchol i’r colegau drwy Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844, neu ewch i cymrungweithio.llyw.cymru

Gan fod y rhaglen wedi’i hanelu at unigolion a hoffai newid yn eu gyrfa, nid oes angen gwybodaeth flaenorol am y sector. Gellir cael mynediad i rai o’r cyrsiau heb sgiliau neu gymwysterau penodol. Cyn dechrau’r cwrs, bydd unigolion yn cael cynnig datblygu cynllun hyfforddi fydd yn nodi’r cyrsiau / cymwysterau sydd ar gael iddynt i’w cynorthwyo i wneud cynnydd yn eu gyrfa ym mha bynnag sector a ddewisir.

Bydd pob dysgwr yn cael cynnig asesiad annibynnol cyn dechrau dysgu er mwyn sicrhau bod y gwaith dysgu cywir yn cael ei ystyried a’i gwblhau. Un cymhwyster yn unig y gall unigolyn ei gwblhau ar y tro, ac mae’n rhaid iddo gyd fynd â symud ymlaen at gyflogaeth yn y sector o’u dewis. Gall hyn gael ei gwblhau drwy Gymru’n Gweithio neu drwy’r coleg. Bydd Cymru’n Gweithio’n cyfeirio unigolion cymwys i’r coleg perthnasol.

Bydd y coleg yn gwneud eu gorau i fodloni anghenion pawb wrth gynllunio dyddiadau ac amseroedd i gynnal y cyrsiau. Mae’r colegau yn hyblyg ac yn ceisio darparu addysg sy’n cyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol a gwaith pobl. Bydd eich argaeledd yn cael ei drafod yn ystod eich asesiad cyn-derbyn.

Gallwch. Fodd bynnag, os ydych yn astudio’n llawn amser ar gyfer gradd neu unrhyw gymhwyster ffurfiol arall ar hyn o bryd, ni fyddech yn gymwys.

Mae Cymru’n Gweithio yn darparu dull symlach at gefnogi cyflogaeth gan gynnig pwynt cyswllt sengl i unigolion, a thrwy hynny, gael mynediad at y cyngor a hyfforddiant arbenigol, unigryw sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i, a chadw cyflogaeth hirdymor, dda. Mae gwasanaeth cynghori rhad ac am ddim yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb i unrhyw un dros 16 oed sydd ddim mewn addysg llawn amser ac sydd eisiau sicrhau swydd. Mae eu cymorth cyflogadwyedd drwy Raglen Gyrfa Cymru Camau at Gyflogaeth yn cynnwys hyfforddiant swydd benodol, chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, magu hydref, paratoi at gyfweliad a sicrhau profiad gwaith. Fe all yr
ymgynghorwyr arbenigol gyfeirio pobl i raglenni ble gallant gael mynediad at gymorth gofal plant a chymorth gyda thrafnidiaeth.  ellach, dyma’r brif sianel ar gyfer pobl sy’n chwilio am gyflogaeth a hyfforddiant.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 100% o gost y cwrs.

Bydd y cwrs yn cael ei ariannu 100% gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd angen ichi sicrhau bod gennych yr amser angenrheidiol i ymrwymo i fynychu a chwblhau’r cwrs.

Na fydd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yn llawn. Rydym yn deall bod amgylchiadau personol yn newid i unigolion ac efallai y bydd sefyllfaoedd ble na all cyfranogwyr barhau â’u cwrs. Ble mae unigolyn yn tynnu’n ôl o gwrs, a cyn gwneud cais am gwrs Cyfrif Dysgu Personol arall, byddent yn parhau’n gymwys cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rhaglen. Fodd bynnag, pe bai unigolyn yn rhoi’r gorau iddo fwy nag unwaith byddai Llywodraeth Cymru yn cynghori nad ydynt yn gymwys ar gyfer cyllid ar gyfer Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn y dyfodol.

Mae prinder sgiliau o fewn Logisteg, Sero-Net a Gwaith Adeiladu Gwyrdd, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Lletygarwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sectorau Digidol yn creu problemau recriwtio ymysg cyflogwyr. Dewiswyd y cyrsiau hyn yn dilyn ymgysylltu helaeth â chyflogwyr, rhanddeiliaid, grwpiau cynrychioladol a chyfranogwyr posib i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r prinder mewn sgiliau o fewn y sectorau hyn a rhoi cymorth i unigolion fynd i sectorau sydd ddim yn ystrydebol. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac fe all sectorau eraill gael eu hychwanegu yn y dyfodol.

Ni fyddwch yn cael yr arian yn uniongyrchol, mae angen ichi gofrestru ar gyfer y cwrs. Bydd y coleg yn cael ei dalu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r coleg yn gweithredu ‘cronfa gymorth i fyfyrwyr’ y gellir ei defnyddio, lle bo’n briodol, ar gyfer addasu’r rhaglenni dysgu, trafnidiaeth neu ofal plant, yn seiliedig ar amgylchiadau’r dysgwr unigol.

Noder, byddwch angen cysylltiad â’r rhyngrwyd a gliniadur/cyfrifiadur er mwyn cwblhau un o’n cyrsiau e-ddysgu neu rithiwr. Hefyd, byddwch angen meicroffon a gwe-gamera ar gyfer rhai cyrsiau. Gwiriwch eich bod yn gallu defnyddio’r offer hanfodol cyn cyflwyno eich cais.

I hawlio ad-daliad ar gyfer costau CDP fel ffioedd arholiadau, lawrlwythwch y ffurflen hon.

 

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Anfonwch e-bost at pla@coleggwent.ac.uk.
Fel arall, gallwch ffonio 01495 333777

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau