Nid oes rhaid talu'n ddrud
Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau addysg uwch yn costio oddeutu £7,500, sy’n rhatach na’r rhan fwyaf o brifysgolion – gan arbed miliynau o bunnoedd ichi. Mae astudio’n lleol yn Coleg Gwent yn golygu y gallech hefyd fod yn gymwys am gymorth ariannol, bwrsariaethau a grantiau i’ch helpu chi gyda chost astudio.
Mynnwch brofiad y brifysgol
Mae ein cyrsiau lefel prifysgol yn cael eu dilysu gan ein partneriaid prifysgol cydweithredol; Prifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Pearson.
Mae Coleg Gwent yn croesawu ceisiadau uniongyrchol am gyrsiau Addysg Uwch. Felly, nid oes angen gwneud cais drwy UCAS.
Mae ein partneriaethau cryf â’n Prifysgolion yn golygu bod gennych hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol, gan gynnwys canolfannau dysgu’r campws, adnoddau ar-lein a’r Undeb Myfyrwyr. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn derbyn tystysgrif sy’n cael ei gyflwyno gan y brifysgol, a byddwch hyd yn oed yn cael gwahoddiad i’w seremoni raddio!
Nid oes gofynion mynediad llym
Nid oes gennym ofynion mynediad llym a does dim rhaid gwneud cais drwy UCAS. Rydym yn edrych ar bob unigolyn ac yn ystyried eich bywyd a’ch profiad gwaith, yn ogystal â chymwysterau blaenorol.
Rydym ni'n lleol
Gall gadael cartref i fynd i brifysgol fod yn gam mawr, a gydag ymrwymiadau gwaith a theulu – nid yw’n bosibl bob amser. Gyda thoreth o gyrsiau addysg uwch ar draws ein pum campws – ni all astudio cymhwyster lefel prifysgol ar stepen eich drws fod dim haws!
Cyfleoedd Gwych
Bydd ein cyrsiau addysg uwch yn eich darparu â sgiliau sy’n ymwneud â gyrfa a phrofiad mewn diwydiant penodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Mae ein cyrsiau yn broffesiynol berthnasol ac fe allant roi’r fantais gystadleuol i chi, gan arwain at y potensial o gyflog uwch a chyfleoedd gwell.
Digonedd o ddewis
Mae ein hystod eang o bynciau ac opsiynau astudio yn golygu y gallwch astudio’n llawn amser neu’n rhan amser – i gyd-fynd â gwaith neu ymrwymiadau eraill. Gyda phum campws i ddewis o’u plith, rydym yn hyderus y dewch o hyd i rywbeth sy’n addas i chi!
Profiad yn y gweithle
Fel rheol, mae ein cyrsiau yn cynnwys dysgu yn y gweithle yn ogystal ag yn y coleg, felly byddwch yn ennill sgiliau sy’n ymwneud â gyrfa a phrofiad mewn diwydiant penodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac felly cewch gyfle da i ddod o hyd i yrfa eich breuddwydion.
Tiwtora Gwell
Mae maint llai ein dosbarthiadau yn golygu y byddwch yn derbyn cymorth gan staff darlithio a staff cymorth ymroddedig, ac mae ein campysau yn groesawgar a chyfeillgar.
Gwnewch o'n llwyddiant
Mae dros hanner ein myfyrwyr addysg uwch yn astudio gradd sylfaen ac yn ychwanegu at eu gradd ar eu blwyddyn olaf yn ein prifysgolion partner.
Felly, gallwch aros yn lleol ac arbed amser ac arian teithio, llety a ffioedd dysgu* yn Coleg Gwent.
Felly, os ydych chi wedi rhoi eich bryd ar ennill cymhwyster lefel prifysgol – gallwch wneud hynny yn Coleg Gwent!
*yn ddibynnol ar eich dewis o gwrs a phrifysgol bartner ddilysu.
Byddwn yn argymell Coleg Gwent oherwydd bod ganddynt ddarlithwyr a chyfleusterau gwych! Mae’n lleol, felly mae wedi rhoi’r cyfle i mi astudio cymhwyster addysg uwch ar stepen fy nrws. Mae ganddyn nhw ddosbarthiadau llai hefyd, felly rydych chi ar lefel mwy personol gyda’ch darlithwyr.