
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Bydd gweithio yn y diwydiant chwaraeon a ffitrwydd egnïol yn eich cadw ar flaenau eich traed. Gan hybu iechyd a lles, dod â chymunedau’n nes at ei gilydd, a darparu digwyddiadau difyr, mae chwaraeon a ffitrwydd wrth wraidd ein cymdeithas fodern.
Gallwch ddilyn trywydd eich arwyr ym myd chwaraeon gyda chymhwyster mewn chwaraeon a ffitrwydd. Ewch i’r afael â’r amryw swyddi sydd ar gael mewn canolfannau hamdden, clybiau iechyd, ac ym maes gweithgareddau awyr agored ac arenâu chwaraeon proffesiynol.
Gyda’r sylw ar agweddau ymarferol, bydd ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd ar lefelau 1, 2, 3, a 4 yn eich paratoi i lwyddo. Cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon ym mob campws, gan gynnwys rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, hoci a mwy. Byddwch hyd yn oed yn cael defnyddio canolfannau hamdden lleol, campfeydd, parciau trampolinio, canolfannau dringo o dan do ynghyd â BikePark Wales ar gyfer gweithgareddau ymarferol, ynghyd â chyfleoedd i gofrestru ar gyfer pencampwriaethau AoC (Cymdeithas y Colegau).
Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Dreigiau Iau Casnewydd Gwent lle bydd chwaraewyr yn ennill cymwysterau ochr yn ochr â’u hyfforddiant rygbi, ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gynghreiriau a thwrnameintiau. Cynigir Academi Dreigiau’r Merched ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, ar y cyd â Champws Crosskeys, ond ym Mharth Dysgu Torfaen cynigir chwaraeon mewn partneriaeth â Stadiwm Cwmbrân.
Bydd cwblhau ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd yn llwyddiannus yn rhoi mantais gystadleuol i chi o safbwynt eich gyrfa at y dyfodol. Trwy ennill profiad ymarferol, sgiliau gwerthfawr, ynghyd â gwybodaeth i ategu hynny, gallwch fwrw ymlaen â rôl ym maes chwaraeon a ffitrwydd yn syth. Ond os ydych eisiau parhau i ddatblygu eich set o sgiliau, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau rhan amser a graddau sylfaen mewn Rheoli Llesiant ac Ymarfer Corff, Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon, neu Gyflyru, Adfer a Thylino. Felly, gallwch wireddu eich dyheadau trwy ddilyn cwrs yng Ngholeg Gwent!
Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon a Ffitrwydd
Ar ddydd Llun a dydd Gwener rydyn ni’n mynd i Stadiwm Cwmbrân i brofi ochr ymarferol y cwrs. Rydym yn defnyddio’r Astroturf ar gyfer pêl-droed, trac ar gyfer gatiau cyflymder, ac offer yn y gampfa a’r pwll nofio. Rwyf hefyd yn mwynhau gwersi anatomeg a ffisioleg gan ddysgu sut mae’r esgyrn a’r cyhyrau’n gweithio.
Darnia Coleman
BTEC Chwaraeon, Lefel 3
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr