
Siapio sgiliau cyfredol a’r dyfodol. Unigolion ysbrydoledig. Archwilio gweithlu’r dyfodol.
Partneriaethau a Chydweithio
Rydym wedi gweithio gyda nifer o gyflogwyr dros y blynyddoedd, ac mae ein partneriaethau wedi helpu i greu gwahaniaeth gwirioneddol o fewn cymunedau lleol. Mae ein perthynas â busnesau wedi annog cydweithio ac arloesi, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyllido i fod o fudd i ddysgwyr, yn ogystal â busnesau a’r economi ehangach.
Mae codi ymwybyddiaeth o sut fyddai Coleg Gwent yn hoffi paru â chi drwy amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd yn hanfodol. Mae adeiladu cydweithio cryfach â chyflogwyr yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn cysylltu’n agos â’r byd gwaith go iawn, a’r galw am sgiliau yn y dyfodol.
Rydym wastad yn chwilio am bartneriaid i ymestyn yr hyn mae’r Coleg yn ei gynnig, cyrraedd dysgwyr newydd, defnyddio dulliau trosglwyddo gwahanol a darparu’r safon uchaf o addysgu.
Dyma rai o’r cyflogwyr rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw ar hyn o bryd:














Richard Selby, Cyfarwyddwr a Chyd Sylfaenydd Pro Steel Engineering
“Ers i’n hyfforddeion o Goleg Gwent ymuno â ni, maen nhw wedi integreiddio’n dda â’r busnes ac wedi dangos i bobl eraill o fewn y busnes yr hyn y gall gwaed newydd a syniadau ffres ei gynnig, gan feddwl am arloesiadau a syniadau newydd. Mae ganddyn nhw’r ymdeimlad gwirioneddol hwnnw o egni a bywiogrwydd sydd ei angen arnom o fewn y busnes, pan mae gennym, mewn gwirionedd, weithlu sy’n heneiddio.”

Beccy Legge, Pennaeth Pobl Bradgy Tiny Rebel
“Mae Tiny Rebel yn frwd dros gynnig cyfleoedd sy’n tynnu sylw at lwybrau gwahanol i mewn i gyflogaeth, a gallu rhoi profiadau o hynny, yn ogystal â gallu cynnig sgiliau a phrofiadau newydd i’r byd gwaith mewn ffordd wahanol. Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol erioed i allu rhoi rhywbeth buddiol yn ôl ac roeddem yn teimlo mai ymwneud â Choleg Gwent oedd y cam nesaf yn hynny o beth. Erbyn hyn, mae Tiny Rebel yn gartref i nifer o gyn-fyfyrwyr Coleg Gwent, ac roeddem eisiau dathlu hyn ymhellach gyda chenhedlaeth y dyfodol y gweithle.”
Darganfyddwch y gwahanol ffyrdd
y gallech chi a’ch sefydliad fod yn bartner i ni