En

Cyllid

Y cyllid cywir ar gyfer eich hyfforddiant.

Mae llwyddiant yn hanfodol ar gyfer dyfodol eich busnes, ac mae datblygiad a hyfforddiant eich staff yn rhan annatod o hynny.

Rydym yn gweithio gyda saith corff cyllido lleol a chenedlaethol, ac mae gennym amrywiaeth o opsiynau i’ch helpu chi gyflawni eich amcanion. Bydd ein cynghorwyr proffesiynol yn eich cefnogi a’ch arwain at y corff cywir ar gyfer eich busnes.

Cyllid Cynllun Gweithredu ar Dddiswyddiadau (ReAct+)

Mae’r Cynllun Gweithredu ar Dddiswyddiadau (ReAct+), a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, yn cynhnig cymorth i unigolion sydd yn byw yng Nghymru i fagu sgiliau, gorchfygu heriau a gwella eu gobaith o ddychwelyd at waith yn yr amser lleiaf bosib yn dilyn diswyddo.

Os ydych chi’n gymwys o dan ReAct+, gallai eich cyflogwr newydd gael hyd at £4,000 tuag at eich cyflog ym mlwyddyn gyntaf eich swydd newydd

Darganfyddwch mwy – Bydd Gyrfa Cymru yn gallu eich arwain chi drwy’r broses ynghyd â Phorth Sgiliau i Fusnes ar 0800 028 4844. Os ydych yn cofrestru ar gyfer y cyrsiau drwy ReAct, bydd ein tîm Datblygu a Rheoli yn eich helpu chi i gwblhau’r ffurflen gais. Cysylltwch â ni ar 01495 333777 neu drwy e-bost yn employers@coleggwent.ac.uk

Cyswllt Ffermio

Os ydych yn ffermwr neu’n goedwigwr, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth a gwasanaethau sydd wedi eu hariannu’n llawn i weddnewid eich rhagolygon.
Mwy o wybodaeth yma businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

Rhagor o wybodaeth

Cyfrifon Dysgu Personol (CDP)

Helpwch i siapio ein cwricwlwm ar gyfer y cyrsiau hyn sydd wedi’u hariannu’n llawn a llenwi bylchau sgiliau’r dyfodol.

Rhagor o wybodaeth