City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
16:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r egwyddorion sylfaenol a’r sgiliau ymarferol uwch sydd eu hangen yn y diwydiant trin gwallt.
Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n cael eu cyflogi mewn salon trin gwallt ar hyn o bryd, ac mae’r holl asesiadau’n cael eu cynnal yn y gweithle.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un sy’n gweithio/cael eu cyflogi ar hyn o bryd mewn amgylchedd salon trin gwallt gyda sylfaen reolaidd o gleientiaid
... y rheini sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt
... y rheini sy’n frwd dros drin gwallt
... unigolion sy’n gweithio’n galed gyda sgiliau cyfathrebu da.
Cynnwys y cwrs
Mae sesiynau ymarferol gyda chleientiaid ac mae’r holl theori ynghlwm.
Yn ystod y cwrs hwn, gallwch gynnwys unedau o'r rhestr isod.
UNEDAU GORFODOL/UNEDAU DEWISOL
- Darparu gwasanaethau ymgynghori i gleientiaid
- Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
- Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
- Lliwio a goleuo gwallt yn greadigol
- Gwasanaethau cywiro lliw gwallt
- Torri gwallt dynion gan ddefnyddio techneg sylfaenol
- Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio
- Sgiliau Cyflogadwyedd
Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau trin gwallt canolradd ac yn eich helpu i ddatblygu technegau mwy creadigol.
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu’r cit priodol, gan ein cyflenwr cymeradwy, sy’n costio tua £140 yn amodol ar adolygiad/cynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant.
Er mwyn adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent a fydd yn cael ei archebu gan ein cyflenwr cymeradwy.
Gellir cael manylion am sut i archebu eich gwisg, ynghyd ag opsiynau talu cyflenwyr, gan Bennaeth eich Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.
Mae’r pris ar gyfer 2024/2025 yn oddeutu £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EPDI0011AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr