En

Dyfarniad EAL mewn Arolygu Gosodiadau Trydanol, Profi, Ardystio ac Adrodd

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Adeiladu

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno astudio ar gwrs Gosodiadau Trydanol – Archwilio a Phrofi/Dilysu Cychwynnol.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o gynllun Cyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim gan gynnig dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill yn llai na £32,371 y flwyddyn

...trydanwyr/goruchwylwyr cymwysedig sydd â phrofiad ym maes archwilio a phrofi ac ardystio gosodiadau trydanol. Mae’r cwrs hwn ar gyfer Archwilio a Phrofi yn unig.

Cynnwys y cwrs

Un arholiad aml-ddewis ar-lein a dau asesiad archwilio a phrofi ymarferol. Mae dysgu cyn dechrau ar y cwrs yn hanfodol. Mae’n rhaid eich bod chi’n meddu ar wybodaeth weithiol am BS7671 a Nodyn Canllaw 3. Mae hwn yn gwrs atodol gan ychwanegu at y cymhwyster Gosodiad Trydanol Lefel 3.

Gofynion Mynediad

Gofynion y cwrs yw; yn ddelfrydol, Lefel 3 mewn Gosodiad Trydanol, fodd bynnag. Neu, efallai y caniateir cymhwyster Lefel 2 ar yr amod bod y myfyriwr wrthi’n gweithio yn y diwydiant Gosodiadau Trydanol ac yn chymryd rhan mewn gweithgarwch profi ac archwilio yn y gweithle.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trafodir dyddiadau’r cwrs yn ystod y broses ymgeisio. Cynhelir y cwrs hwn trwy ein campws Parth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd angen mynychu cyfweliad cyn i unrhyw un gael mynediad i’r cwrs.

Ble alla i astudio Dyfarniad EAL mewn Arolygu Gosodiadau Trydanol, Profi, Ardystio ac Adrodd?

MPLA0190AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.