En

NILC Meistr Sgrym Rhyngwladol APMG

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs achrededig hwn yn cwmpasu’r egwyddorion a’r theori sy’n sail i’r fframwaith Scrum a rôl y Meistr Scrum sydd ynddo.

Bydd y cwrs yn arwain at gymhwyster Meistr Scrum ABC. Bwriad y cwrs yw sicrhau a yw’r ymgeisydd yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Egwyddorion Agile a’r Canllawiau Scrum 2020 a ddarperir fel deunyddiau darllen cyn y cwrs, yn ogystal â rhai technegau sylfaenol i'w alluogi i ddechrau helpu timau a sefydliadau i fabwysiadu Scrum.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 mlwydd oed, sydd yn byw yng Nghymru ac sydd yn gyflogedig. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

...y rheini sy'n atebol am fanteisio i’r eithaf ar Scrum, gan gynnwys Meistri a rheolwyr Scrum ac aelodau tîm Scrum.

...unigolion sy'n dymuno magu eu cymhwysedd fel Meistr Scrum naill ai i baratoi at ymgymryd â'r rôl honno neu fel rhywun sydd eisoes yn cyflawni'r rôl ac sydd am sicrhau ei fod yn gwasanaethu ei dîm a'u sefydliad yn addas.

...bydd unigolion sy'n ymwneud â defnyddio fframwaith Scrum, neu reoli'r rheini sy'n ei ddefnyddio, hefyd yn elwa o ennill dealltwriaeth o Scrum trwy ennill y cymhwyster hwn.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 2 ddiwrnod

Bydd cynrychiolwyr yn dysgu rôl Meistr Scrum a/neu Berchennog Cynnyrch i allu mabwysiadu’r fframwaith Scrum i ddatblygu cynnyrch a datrysiadau’n fwy effeithiol.

Diwrnod 1

  • Trosolwg o Scrum
  • Hunan-drefniant
  • Hanfodion Agile
  • Datblygu Cynnyrch Empirig a Theori Scrum
  • Digwyddiadau Scrum
  • Tîm Scrum ac atebolrwydd
  • Arteffactau ac Ymrwymiad

Diwrnod 2

  • Creu Ôl-groniad o Gynnyrch
  • Amcangyfrifo
  • Cynllunio a Chwblhau Sbrintio
  • Cynnydd Sbrintio
  • Adolygiadau Sbrintio
  • Arholiad Meistr Scrum ABC

Gofynion Mynediad

Nid oes gan y Meistr Scrum unrhyw ofynion mynediad, ond rydym yn argymell bod dysgwyr yn meddu ar brofiad o weithio â phrosiectau Agile, neu eu bod wedi mynychu cwrs hyfforddi Ymarferwyr Sylfaen/Ymarferydd Rheoli Prosiect Agile.

Gwybodaeth Ychwanegol

Un nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.

Cyn cael eich ymrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu unigol â chi er mwyn sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr dysgu cywir.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu'r maes
  • dyheadau gyrfa
  • dyrannu’r amser a fydd ei angen
  • mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs:

  • unrhyw brofiad blaenorol gyda methodolegau Agile neu gymhwyster AgilePM
  • unrhyw brofiad gyda fframweithiau neu fethodolegau Agile eraill (ee, Product, Owner, Kanban, Lean, SAFe)

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NILC Meistr Sgrym Rhyngwladol APMG?

MPLA0183AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.