En

NILC Ardystiedig Microsoft: Azure Data Hanfodion

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Yn y cwrs hwn, bydd mynychwyr yn dysgu hanfodion cysyniadau cronfeydd data mewn amgylchedd cwmwl, yn ennill sgiliau sylfaenol mewn gwasanaethau data yn y cwmwl, ac yn magu eu gwybodaeth sylfaenol am wasanaethau data yn y cwmwl o fewn Microsoft Azure. Bydd myfyrwyr yn nodi ac yn disgrifio cysyniadau data craidd megis perthynol, amherthynol, data mawr a dadansoddeg, ac yn archwilio sut mae'r dechnoleg hon yn cael ei gweithredu gyda Microsoft Azure.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 mlwydd oed, sydd yn byw yng Nghymru ac sydd yn gyflogedig. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 1 diwrnod

Modiwl 1: Archwilio cysyniadau data craidd

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion cysyniadau cronfeydd data mewn amgylchedd cwmwl, yn ennill sgiliau sylfaenol mewn gwasanaethau data yn y cwmwl, ac yn magu eu gwybodaeth 

sylfaenol am wasanaethau data yn y cwmwl o fewn Microsoft Azure. Bydd myfyrwyr yn nodi ac yn disgrifio cysyniadau data craidd megis perthynol, amherthynol, data mawr a dadansoddeg ac yn archwilio sut mae'r dechnoleg hon yn cael ei gweithredu gyda Microsoft Azure. Bydd myfyrwyr yn archwilio rolau, tasgau, a chyfrifoldebau y byd data.

Modiwl 2: Archwilio data perthynol yn Azure

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion cysyniadau cronfeydd data mewn amgylchedd cwmwl, yn ennill sgiliau sylfaenol mewn gwasanaethau data yn y cwmwl, ac yn magu eu gwybodaeth sylfaenol am wasanaethau data yn y cwmwl o fewn Microsoft Azure. Bydd myfyrwyr yn archwilio cynigion data perthynol, yn darparu ac yn defnyddio cronfeydd data perthynol, ac yn holi data perthynol trwy ddatrysiadau data yn y cwmwl gydag Azure.

Modiwl 3: Archwilio data nad yw'n berthynol yn Azure

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion cysyniadau cronfeydd data mewn amgylchedd cwmwl, yn ennill sgiliau sylfaenol mewn gwasanaethau data yn y cwmwl ac yn magu eu gwybodaeth sylfaenol am wasanaethau data yn y cwmwl o fewn Azure. Bydd myfyrwyr yn archwilio cynigion data amherthynol, yn darparu ac yn defnyddio cronfeydd data amherthynol a storfeydd data amherthynol â Microsoft Azure.

Modiwl 4: Archwilio dadansoddiadau warws data modern yn Azure

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion cysyniadau cronfeydd data mewn amgylchedd cwmwl, yn ennill sgiliau sylfaenol mewn gwasanaethau data yn y cwmwl ac yn magu eu gwybodaeth sylfaenol am wasanaethau data yn y cwmwl o fewn Azure. Bydd myfyrwyr yn archwilio'r opsiynau prosesu sydd ar gael ar gyfer adeiladu datrysiadau dadansoddi data yn Azure. Bydd myfyrwyr yn archwilio Azure Synapse Analytics, Azure Databricks, ac Azure HDInsight. Bydd myfyrwyr yn dysgu beth yw Power BI, gan gynnwys ei flociau adeiladu a sut maent yn gweithio gyda'i gilydd.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd mynychwyr yn gallu:

  • Disgrifio cysyniadau data craidd yn Azure
  • Egluro cysyniadau data perthynol yn Azure
  • Egluro cysyniadau data amherthynol yn Azure
  • Nodi cydrannau warws data modern yn Azure

Gofynion Mynediad

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ragofynion ffurfiol. Cynlluniwyd ef ar gyfer unigolion sydd am ddangos gwybodaeth sylfaenol am ddysgu peirianyddol (machine learning - ML) a chysyniadau deallusrwydd artiffisial (AI) a gwasanaethau Microsoft Azure cysylltiedig.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyn cael eich ymrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu unigol â chi er mwyn sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr dysgu cywir.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu'r maes
  • dyheadau gyrfa
  • dyrannu’r amser a fydd ei angen
  • mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwegamera/meicroffon

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs:

  • unrhyw brofiad blaenorol gyda chyfrifiadura ar y cwmwl
  • y defnydd o unrhyw blatfformau cwmwl megis AWS, Google Cloud neu Azure
  • diddordeb mewn dilyn cymwysterau Azure ychwanegol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NILC Ardystiedig Microsoft: Azure Data Hanfodion?

MPLA0179AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.