ABBE Tystysgrif mewn Asesu Ynni Annomestig Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Annomestig yn gwrs dwys 3 diwrnod sydd wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau adeiladu, pensaernïaeth, archwilio neu feysydd perthnasol, gyda'r nod o ddod yn aseswyr ynni achrededig ar gyfer adeiladau an-nomestig.
Wedi'i ariannu drwy Coleg Gwent a Chyfrif Dysgu Personol Cymru (PLA), mae'r cwrs hwn yn cwmpasu rheoliadau perfformiad ynni, adeiladwaith, systemau HVAC, a hyfforddiant ymarferol er mwyn cynnal arolygon safle a defnyddio meddalwedd asesu ynni.
Mae cwblhau'n llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i gofrestru gyda chyrff achredu, cynnal asesiadau ynni, a dyfarnu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCau), gan wella cyfleoedd gyrfa o fewn ymgynghori amgylcheddol, rheoli eiddo a rolau o fewn y llywodraeth.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19 oed a hŷn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,372 yn berthnasol i’r cwrs hwn.
...Ydych yn weithiwr proffesiynol o fewn y gwasanaethau adeiladu, pensaernïaeth neu faes perthnasol.
...Eisiau dod yn aseswr ynni annomestig achrededig.
...Oes gennych ddiddordeb i wella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau masnachol.
...Ydych yn awyddus i wella eich gyrfa gyda chymhwyster mewn asesu ynni.
Cynnwys y cwrs
- Astudiaeth Theoretaidd: Dysgu am reoliadau perfformiad ynni, adeiladwaith a systemau HVAC.
- Hyfforddi Ymarferol: Cynnal arolygon safle ar gyfer adeiladau an-nomestig a defnyddio meddalwedd asesu ynni.
- Aseiniadau a Phrosiectau: Cwblhau gwaith cwrs yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn a chynhyrchu adroddiadau effeithlonrwydd ynni manwl.
- Arholiadau: Darparu a llwytho asesiadau ymarferol er mwyn arddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau.
Gofynion Mynediad
- Cefndir Addysgol: Yn ddelfrydol, bod â chefndir mewn gwasanaethau adeiladu, pensaernïaeth neu faes perthnasol.
- Sgiliau Sylfaenol: Bod yn fedrus o ran sgiliau cyfrifiadurol a dealltwriaeth sylfaenol o adeiladwaith a systemau ynni.
- Profiad Gwaith: Mae profiad blaenorol yn fuddiol ond nid wastad yn hanfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.
Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa yn y dyfodol
- ymrwymo i'r amser sydd ei angen
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0175AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.