ABBE Dyfarniad mewn Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hyn a Thraddodiadol Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn arwain ar dderbyn cymwysterau Dyfarniad ABBE Lefel 3 mewn Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol. Mae’n ddull cymysg, sy’n golygu bod y cynnwys o ran gwybodaeth yn cael ei ddarparu drwy eDdysgu a hanner diwrnod bŵtcamp, lle bydd tiwtor arbenigol ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.
Mae hefyd asesiad rhithiol o eiddo, yn cael ei ddilyn gana gwblhau adroddiad yn seiliedig ar dempled adroddiad asesiad Academi Ôl-osod. Mae hyn er mwyn helpu eich paratoi ar gyfer yr asesiad olaf.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19 oed a hŷn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,372 yn berthnasol i’r cwrs hwn.
Cynnwys y cwrs
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Mae’r cwrs yn cynnwys tri modiwl sy’n ymdrin â phob agwedd ar adeiladau hŷn a thraddodiadol. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau addysgu helaeth a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi mewn theori ac ymarfer.
Modiwl 1 Oedran, Natur a Nodweddion Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol
Mae'r modiwl hwn yn addysgu am nodweddion allweddol adeiladau traddodiadol, gan roi cydnabyddiaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr o oedran, gwerthoedd ac arwyddocâd treftadaeth eiddo, dulliau a deunyddiau adeiladu, cyflwr a pherfformiad thermol, yn ogystal â goblygiadau pob un o’r rhain wrth gyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni.
Modiwl 2 Asesu Opsiynau ar gyfer Cyflwyno Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol
Yn dilyn hyn, mae ein modiwl nesaf yn cynnwys sut i asesu a dehongli’r opsiynau ar gyfer cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni, gan gyfeirio at nodweddion adeiladau penodol, yn seiliedig ar adnabyddiaeth gywir a gwerthuso ac inswleiddio, awyru a ffactorau perfformiad adeilad. Mae hefyd yn sefydlu’r mesurau ymchwiliol perthnasol a gwerthusiad o’r wybodaeth sydd ar gael ynghylch yr adeilad a’i berfformiad thermol.
Modiwl 3 Gwneud Argymhelliad a Rhoi Cyngor ar Gyflwyno Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol
Mae'r modiwlau terfynol yn ymdrin â sut i ddewis y mesurau effeithlonrwydd ynni priodol ar sail dealltwriaeth lawn o strwythur a pherfformiad thermol cyfredol y cwmni. Roedd hefyd yn cynnwys cynghori ar osod mesurau a sut i wneud y gorau o berfformiad thermol yr adeilad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae 21 awr o ddysgu dan arweiniad yn ogystal ag arholiad amlddewis terfynol ac astudiaeth achos i’w chwblhau. Ddisgwyl bod angen 27 awr i gwblhau'r cwrs.
Asesir y cwrs drwy arholiad amlddewis ar-lein ac astudiaeth achos ar ddiwedd y cwrs.
Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes dyheadau gyrfa
- ymroddiad o amser sydd ei angen
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0174AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.