IMI Diagnosis, Profi ac Atgyweirio Cerbydau Trydanol/Hybrid a Chydrannau Lefel 4
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddatblygu mewn cysylltiad agos gydag arbenigwyr yn y diwydiant, gwneuthurwyr cerbydau trydan, darparwyr hyfforddiant, iechyd a diogelwch a'r Cyngor Sgiliau Sector IMI. Dyma'r cymhwyster cyntaf o'i fath i fynd i'r afael â gweithio ar systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid byw. Mae'r cymhwyster yn angenrheidiol er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch unigolion sy'n gweithio ar gerbydau trydan/hybrid. Wedi iddynt gwblhau'r cymhwyster bydd technegwyr yn gallu arddangos mewn ffordd ymarferol bod y sgiliau angenrheidiol ganddynt er mwyn atgyweirio systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau.
Bwriedir y cymhwyster hwn ar gyfer technegwyr sy'n cynnal ac yn atgyweirio systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid. Mae'n cynnwys yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol er mwyn gweithio ar gydrannau a systemau cysylltiedig cerbydau foltedd uchel byw.
Wedi iddynt gwblhau'r cymhwyster bydd technegwyr yn gallu arddangos mewn ffordd ymarferol bod y sgiliau angenrheidiol ganddynt er mwyn atgyweirio systemau a chydrannau foltedd uchel cerbydau.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £31,371 y flwyddyn
... rhai sydd wedi cwblhau eu cymhwyster Dyfarniad IMI Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Ail-osod Systemau Cerbydau Hybrid/Trydan
... rhai sy'n dechnegwyr hŷn ac yn dechnegwyr a pheirianwyr meistr
Cynnwys y cwrs
Bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol sylweddol ynghyd â'r sgiliau a'r gallu i dynnu ymaith, cyfnewid ac atgyweirio cydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid.
Mae'r Cymhwyster yn cynnwys un uned EV4 gorfodol, gyda'r gofynion tystiolaeth fel a ganlyn:
- Paratoi batri foltedd uchel i gael ei dynnu o'r cerbyd.
- Tynnu ymaith a chyfnewid modiwl batri foltedd uchel o'r batri foltedd uchel
- Cydbwyso modiwlau batri foltedd uchel
- Ailosod y batri foltedd uchel yn y cerbyd
- Cynnal diagnosis a phrofi moduron trydan a rheolwyr pŵer
- Ymgymryd â gweithdrefnau cau a thanio foltedd
Ymgymryd â gwiriad gweithredu ar y systemau cerbyd foltedd uchel yn dilyn cwblhau'r atgyweiriad yn llwyddiannus
O ganlyniad, bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn ennill gwybodaeth greiddiol sylweddol ynghyd â'r sgiliau a'r gallu i dynnu ymaith, cyfnewid ac atgyweirio cydrannau foltedd uchel cerbydau trydan/hybrid/
Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer technegwyr hŷn a thechnegwyr a pheirianwyr meistr. Byddwch angen bod â Dyfarniad IMI Lefel 3 mewn Atgyweirio ac Ail-osod Systemau Cerbydau Hybrid/Trydan.
Gwybodaeth Ychwanegol
Asesiadau ymarferol, asesiadau llafar ac asesiad ysgrifenedig.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0173AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.