En

DVLA Trwydded Categori D

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn galluogi i chi sicrhau Trwydded Categori D PCV sy'n cynnwys cerbyd sy'n cludo teithiwr gyda mwy na 16 o seddau i deithwyr.

Bydd yr hawl PCV D hefyd yn galluogi i chi yrru bysys, bysys deulawr a bysiau hyblyg (bendi buses). Nid oes angen i chi fod wedi meddu ar eich trwydded categori C am gyfnod penodol o amser.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £31,371 y flwyddyn.

Unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar drwydded yrru car. Nid oes angen i chi fod wedi ei meddu am gyfnod penodol o amser.

Gyrwyr cymwys sy’n awyddus i wella eu sgiliau a dilyn gyrfa yn y diwydiant trafnidiaeth fel gyrwyr cerbyd nwyddau mawr.

...unigolion sydd am ymuno gyda'r gwasanaethau brys a gyrru ambiwlans.

Cynnwys y cwrs

Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr fel arfer ar sail 1 i 1.

Hyd y Cwrs: 2 ddiwrnod llawn, gan ddychwelyd ar gyfer eich prawf ymarferol ar y trydydd diwrnod, sef y diwrnod olaf.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn:

  • Cael eich cyflwyno i'r cerbyd
  • Codi hyder yn gyrru cerbydau llawer o deithwyr, mawr
  • Cywiro eich dull o yrru er mwyn paratoi ar gyfer eich prawf gyrru
  • Cwblhau'r hyfforddiant a'r asesiad ymarfer gyrru am yn ôl
  • Ymarfer y cwestiynau 'dangoswch, dywedwch' y byddwch yn cael eu gofyn ar ddechrau'r prawf.

Mae dwy ran i’r prawf gyrru ymarferol:

  • Modiwl 3A: Ymarfer symud cerbyd am yn ôl mewn 'siâp S' i fae llwytho. Yn ystod eich cwrs hyfforddi gyrrwr, byddwch yn ymarfer yr ymarfer hwn yn ein hardal gyrru am yn ôl preifat, a byddwn yn eich profi pan fyddwch yn teimlo'n hyderus.
  • Modiwl 3B: gyrru ar y ffordd am 60 munud. Bydd arholwr gyrru DVSA yn cynnal hwn ar ddiwedd eich cwrs hyfforddiant ymarferol. Byddwch yn cymryd eich prawf ar yr un ffyrdd ag y buoch yn hyfforddi arnynt.

Rydym yn defnyddio cerbydau awtomatig llawn at bwrpas hyfforddiant. Drwy lwyddo mewn cerbyd awtomatig, byddwch yn derbyn hawl gyrru PCV arferol. Rydym yn dethol ein cerbydau hyfforddi yn ofalus er mwyn sicrhau bod eich hyfforddiant gyrrwr mor hawdd â phosib.

Gofynion Mynediad

Cyn hyfforddiant ymarferol, bydd rhaid i chi:

  • gwblhau asesiad meddygol er mwyn ymgeisio am eich trwydded dros dro
  • pasio'r profion theori PCV perthnasol

Trefnir yr elfennau hyn ar eich rhan.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • dyheadau gyrfa i ddod yn yrrwr ac ar gyfer ennill trwydded
  • rheswm dros ddewis categori trwyddedu
  • profiad blaenorol o yrru cerbydau mwy neu beiriannau
  • anghenion cefnogi ychwanegol ar gyfer profion meddygol neu theori
  • mynediad at liniadur/cyfrifiadur/llechen/ffôn clyfar er mwyn cwblhau adolygu theori ac ymrwymiad amser ar gyfer hyn
  • prawf meddygol/dros dro neu brawf theori a gwblhawyd cyn hyn

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio DVLA Trwydded Categori D?

MPLA0171AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.