En

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg
Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Cyn hyfforddiant ymarferol, bydd rhaid i chi:

  • gwblhau asesiad meddygol er mwyn ymgeisio am eich trwydded dros dro
  • pasio'r profion theori PCV perthnasol

Trefnir yr elfennau hyn ar eich rhan.

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn eich caniatáu i  ennill eich Trwydded PCV Categori D sy'n cynnwys cerbyd cludo teithwyr gyda dros 16 o seddi teithwyr.

Bydd yr hawl PCV D hefyd yn caniatáu i chi yrru coetsis a bysiau dwylawr a hyblyg. Nid oes angen i chi fod wedi meddu ar eich trwydded am gyfnod penodol o amser.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Unigolion a gyflogir yn bresennol gan Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU ei gadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru.

... unrhyw un sydd eisoes â thrwydded yrru car. Nid oes angen i chi fod wedi meddu ar hon am gyfnod penodol o amser

... gyrwyr cymwys sydd am uwchsgilio a dilyn gyrfa yn y diwydiant trafnidiaeth fel gyrwyr cerbydau nwyddau

... unigolion sydd am ymuno â'r gwasanaethau brys a gyrru ambiwlans

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod eich cwrs byddwch yn:

  • Cael cyflwyniad i'r cerbyd
  • Magu eich hyder wrth yrru cerbydau cludo teithwyr mawr
  • Cywiro eich arddull gyrru mewn paratoad ar gyfer eich prawf gyrru
  • Cwblhau hyfforddiant ac asesiad yr ymarfer bacio
  • Ymarfer y cwestiynau “dangos a dweud” a ofynnir i chi ar ddechrau eich prawf

    Mae’r prawf gyrru ymarferol yn cynnwys dwy ran:
  • Modiwl 3A: ymarfer bacio 'siâp S' i mewn i fan llwytho. Yn ystod eich cwrs hyfforddi gyrwyr, byddwch yn ymarfer hwn yn ein man bacio preifat, a byddwn yn eich profi chi pan fyddwch yn teimlo'n hyderus.
    • Modiwl 3B: taith yrru 60 munud ar y ffordd. Bydd arholwr gyrru DVSA yn cynnal hyn ar ddiwedd eich cwrs hyfforddi ymarferol. Byddwch yn sefyll eich prawf ar yr un ffyrdd yr ydych chi’n hyfforddi arnynt.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cwrs hyfforddi gyrwyr Categori D fel arfer yn cael ei gwblhau ar sail 1-i-1 dros 2 ddiwrnod llawn, gan ddychwelyd ar gyfer eich prawf ymarferol ar y trydydd diwrnod, sef y diwrnod olaf.

Defnyddiwn gerbydau cwbl awtomatig at ddibenion hyfforddi. Wrth basio cerbyd â thrawsyriant awtomatig, byddwch yn dal yn derbyn hawl PCV â llaw. Rydym ni’n fynonellu ein cerbydau hyfforddi yn ofalus i sicrhau fod eich hyfforddiant mor hawdd â phosib.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ?

MPLA0171AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.