RTITB Triniwr Deunyddiau Telesgopig (Teledriniwr) - Gweithredwr Newydd
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-pla-transport-telehandler.jpg)
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hyfforddi Trinwyr Deunyddiau Telesgopig (y cyfeirir ato'n aml fel “Teledriniwr”, neu Teleandler) yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r tryc codi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal archwiliad cyn-ddefnydd, ac atgofio ac egluro achosion ansefydlogrwydd y tryc codi a’r llwyth.
Defnyddir Trinwyr Deunyddiau Telesgopig yn helaeth ar draws y diwydiant adeiladu ac amaethyddol oherwydd eu natur amlbwrpas a'u gallu i symud llwythi o bob math. Mae'r peiriannau fel arfer yn fwy amlbwrpas na thryciau cydbwyso llai oherwydd eu gallu i estyn i fyny ac ymlaen ymhellach, a’u capasiti codi uwch.
Ar ôl cwblhad llwyddiannus byddwch yn cael trwydded achrededig gan yr RTITB a fydd yn ddilys am 3 blynedd.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Erbyn diwedd y cwrs, dylech allu:
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r peiriant a sut i'w weithredu'n ddiogel
- Lleoli a nodi prif gydrannau a rheolyddion y peiriant ac egluro eu swyddogaethau
- Esbonio’r ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd tryciau a nodi sut i gynnal sefydlogrwydd y tryc a'r llwyth
- Esbonio’r peryglon o orlwytho'r lori a dangos sut i atal gorlwytho
- Cynnal yr holl wiriadau cyn-ddefnydd
- Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith
- Symud y peiriant llwythog a di-lwyth yn effeithiol, dros amrywiaeth o diroedd, mewn ardaloedd agored a chyfyng ac ar lethrau
- Cyflawni tasgau codi a thrin llwythi, gan ddefnyddio tŵr llwytho allan (sgaffaldiau) a/neu gerbyd ffordd
- Gosod, addasu a/neu dynnu atodiadau
- Cyflawni pob gweithdrefn diwedd shifft a chau i lawr
Bydd gofyn i chi basio prawf theori ac asesiad ymarferol i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Gofynion Mynediad
Lefel sylfaenol o sgiliau darllen ac ysgrifennu Saesneg.
Argymhellir esgidiau diogelwch, ond nid yw hyn yn orfodol. Gan fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn yr awyr agored fe'ch cynghorir i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cwblheir y cwrs hyfforddi Gweithredwyr Newydd dros 5 ddiwrnod.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0163AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.