RTITB Tryc Codi Gwrthbwyso (Categori B1) - Gweithredwr Newydd
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hyfforddi gweithredwr Tryc Codi Gwrthbwyso (y cyfeirir ato'n aml fel fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r tryc codi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal archwiliad cyn-ddefnydd, ac atgofio ac egluro achosion ansefydlogrwydd y tryc codi a’r llwyth.
Yn dilyn cyflawniad llwyddiannus byddwch yn cael trwydded achrededig gan yr RTITB (Road Transport Industry Training Board), sy'n eich galluogi i yrru peiriannau o hyd at 5 tunnell o bwysau.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn.
... unrhyw un sy'n chwilio am yrfa o fewn y sectorau diwydiannol neu logisteg, lle defnyddir tryciau codi yn rheolaidd
... unigolion sydd eisoes â thrwydded cerbyd nwyddau mawr ac sydd am uwchsgilio eu cymhwyster
... gweithredwyr newydd
Cynnwys y cwrs
Bydd cwrs hyfforddiant Gweithredwr Newydd yn cael ei gwblhau dros 5 diwrnod.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn mynd i'r afael â'r pynciau canlynol:
- Cyfrifoldebau Gweithredwr eraill o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, PUWER 98 a LOLER 98
- Cod Diogelwch Gweithredwyr
- Ailwefru Wagen Fforch-godi Disel, Nwy neu Wrthbwyso Trydan
- Gwiriadau cyn defnyddio
- Ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd
- Bwrdd rheoli symudedd a hydrolig y Wagen Fforch-godi Gwrthbwyso
- Symud y Wagen Fforch-godi mewn ardaloedd agored a chyfyngedig
- Stacio ar lefelau gwahanol
- Dad-stacio gyda phaledi llawn a gwag
- Gweithio oddi mewn ac oddi allan i reseli gyda'r Fforch-godi Gwrthbwyso
Bydd gofyn i chi basio prawf theori ac asesiad gweithredydd ymarferol er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Gofynion Mynediad
Lefel sylfaenol o sgiliau darllen ac ysgrifennu Saesneg.
Argymhellir esgidiau diogelwch, ond nid yw hyn yn orfodol. Gan fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn yr awyr agored fe'ch cynghorir i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.
Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa yn y dyfodol
- ymrwymo i'r amser sydd ei angen
Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:
- dyheadau gyrfa er mwyn sicrhau trwydded i wella cyfleoedd gwaith
- profiad blaenorol o wagenni fforch-godi
- hyfforddiant blaenorol neu dystysgrif a sicrhawyd yn y maes hwn
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0159AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.