En

RTITB Llwythwr Lori wedi’i Fowntio ar Gerbyd (HIAB)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs gweithredu Llwythwr Lori Wedi’i Fowntio (a elwir yn aml yn llwythwr lori, llwythwr hydrolig wedi’i fowntio neu yn ôl enw y gwneuthurwr "HIAB") yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r craen yn ddiogel ac yn effeithlon.

Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus byddwch yn cael trwydded achrededig gan yr RTITB, sy'n ddilys am 3 blynedd.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim, sy’n cynnig dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... pobl 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn

... gyrwyr LGV cymwys sy'n edrych i uwchsgilio, gan eu galluogi i weithredu craeniau wedi'u mowntio ar gerbydau

... unigolion sydd am ddilyn gyrfa fel gyrrwr arbenigol, cludo llwythi swmp fel deunyddiau adeiladu, peiriannau trwm, pren a mwy

Cynnwys y cwrs

Cwblheir y cwrs hwn dros 2 ddiwrnod llawn, gydag uchafswm o 3 hyfforddai.

Trwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu sut i gynnal archwiliad cyn-ddefnydd, gweithredu atodiadau, cludo amrywiaeth o lwythi gan ddefnyddio'r peiriant a deall signalau a roddir gan y slingwyr a'r arwyddwyr. Byddwch hefyd yn gallu cofio ac egluro achosion ansefydlogrwydd y lori a'r llwythi.

Bydd gofyn i chi basio prawf theori, ac yna asesiad ymarferol.

Gofynion Mynediad

Rhaid bod gennych drwydded nwyddau mawr yn barod (categori C1, C neu CE) er mwyn ymrestru ar y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ynghylch gyrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • trwydded gyfredol ar gyfer LGV/HGV
  • dyheadau gyrfa er mwyn sicrhau trwydded i wella cyfleoedd gwaith

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio RTITB Llwythwr Lori wedi’i Fowntio ar Gerbyd (HIAB)?

MPLA0158AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.