En

PeopleCert Rhithwir Ar-lein - Sylfaen PRINCE2® (7ed Argraffiad)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

 Os ydych yn awyddus i feddu ar sgiliau o’r radd flaenaf yn ymwneud â rheoli prosiectau, neu os ydych eisiau gwella eich siawns o gael gwaith fel rheolwr prosiectau proffesiynol, mae ennill cymhwyster PRINCE2 yn hanfodol oherwydd dyma’r dull a roddir ar waith amlaf drwy’r byd yn y maes Rheoli Prosiectau.

Mae cymwysterau PRINCE2 o fudd i unigolion a sefydliadau. Fel unigolyn, bydd cymwysterau o’r fath yn gwella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfa yn gyffredinol; a bydd sefydliadau sy’n rhoi methodoleg PRINCE2 ar waith yn elwa ar allu hwyluso prosiectau llwyddiannus yn gyson, gyda’u gweithwyr yn defnyddio iaith gyffredin a phrosesau pendant.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un sydd dros 19 oed, yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn

…unrhyw un sydd eisiau gwella’i gyflogadwyedd ar gyfer rôl yn y maes rheoli prosiectau

…darpar reolwyr prosiectau/rheolwyr prosiectau presennol neu weithwyr proffesiynol sy’n rheoli prosiectau. Mae hefyd yn berthnasol i weithwyr allweddol eraill sy’n gysylltiedig â chynllunio a chyflawni prosiectau

Cynnwys y cwrs

Mae’r ardystiad Lefel Sylfaen yn cyflwyno dull PRINCE2, gyda’r nod o gadarnhau eich bod yn gwybod ac yn deall dull PRINCE2 yn ddigon da i allu gweithio’n effeithiol gyda thîm rheoli prosiect (neu fel aelod o dîm tîm rheoli prosiect) sy’n gweithredu mewn amgylchedd PRINCE2. Mae maes llafur lefel Sylfaen PRINCE2 (7fed argraffiad) fel a ganlyn:

  • Egwyddorion PRINCE2: Cyfiawnhad busnes, dysgu ar sail profiad, rolau a chyfrifoldebau pendant, rheoli fesul cam, rheoli trwy eithriad, canolbwyntio ar gynhyrchion a theilwra i weddu i’r cynnyrch
  • Themâu PRINCE2: Achos Busnes, Trefnu, Ansawdd, Cynlluniau, Risg, Newid a Chynnydd
  • Prosesau PRINCE2: Dechrau prosiect, cyfarwyddo prosiect, cychwyn prosiect, rheoli camau, rheoli’r modd y darperir cynhyrchion, rheoli terfynau camau a chau prosiect

Gofynion Mynediad

Gall unrhyw un ymgymryd â chymhwyster Sylfaen PRINCE2®, ond byddai’n ddefnyddiol ichi feddu eisoes ar ddealltwriaeth sylfaenol o reoli prosiectau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein. 

Bydd angen i chi neilltuo 3 diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn.

Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio PeopleCert Rhithwir Ar-lein - Sylfaen PRINCE2® (7ed Argraffiad)?

MPLA0152AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.