En

NEBOSH Rhithwir Ar-lein - Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae Tystysgrif Amgylcheddol NEBOSH yn rhoi’r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ymgeiswyr ddangos rhagoriaeth amgylcheddol a chyfrifoldeb cymdeithasol. Mae hyn yn hanfodol i sefydliadau sy’n dymuno osgoi erlyniad, ymgyfreithiad, a cholli enw da.

Mae sefydliadau â gweithwyr sydd wedi pasio Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH mewn sefyllfa dda i gyflwyno a chynnal safon rheoli amgylcheddol  ISO 14001.

Yn ôl NEBOSH, mae tua dwy ran o dair o ymarferwyr iechyd a diogelwch bellach yn ymdrin â rheolaeth amgylcheddol fel rhan o’u cyfrifoldebau cyffredinol o ddydd i ddydd yn y gwaith. O ganlyniad, mae’r wybodaeth a gafwyd gan Dystysgrif NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn hanfodol i lawer o weithwyr iechyd a diogelwch proffesiynol.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.

Cynnwys y cwrs

Mae Tystysgrif NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn benllanw ymchwil helaeth gyda gweithwyr proffesiynol amgylcheddol, cyflogwyr, cyrff proffesiynol a rheoleiddwyr. Mae hyn yn sicrhau bod y cwrs yn drylwyr ac yn berthnasol, ond hefyd yn gyraeddadwy ac ymarferol.

Deilliannau Dysgu:

  • Deall amrywiaeth o faterion amgylcheddol fel y gallwch wella perfformiad amgylcheddol a lleihau newid
  • Gweithio o fewn system reoli amgylcheddol a chyfrannu at welliant parhaus
  • Cydnabod agweddau amgylcheddol ac effeithiau cysylltiedig, a gwerthuso effeithiolrwydd rheolaethau presennol
  • Cefnogi penderfyniadau gyda dadleuon moesegol, cyfreithiol ac ariannol
  • Deall y cysylltiadau rhwng gweithgareddau eich sefydliad a materion amgylcheddol ehangach

Maes Llafur:

  • Uned EMC1 - Rheolaeth Amgylcheddol
  • Unet EMC2 - Asesu agweddau amgylcheddol ac effeithiau cysylltiedig

Asesir Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH mewn dwy ran:

  • Ar gyfer UNED EMC1, asesir ymgeiswyr drwy arholiad ysgrifenedig (i’w lawrlwytho, ei gwblhau a’i gyflwyno o fewn 24 awr), lle mae’n rhaid iddynt ddangos eu gwybodaeth a enillwyd drwy’r cwrs.
  • Mae Uned EMC2 yn asesiad ymarferol, a gynhelir yng ngweithle’r ymgeisydd. Rhaid cyflwyno’r asesiad ymarferol o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad arholiad a archebwyd.

Rhoddir tystysgrif uned yn dynodi cyflawniad pob uned.

Rhoddir memrwn dyfarnu’r dystysgrif ar ôl cwblhau’r ddwy uned.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, fodd bynnag mae’n bwysig bod dysgwyr yn deall Saesneg at safon briodol er mwyn deall a chyfleu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein.

Bydd angen i chi neilltuo 5 diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn.

Sylwch y cynhelir Arholiadau NEBOSH ar ddyddiadau penodol yn unig drwy gydol y flwyddyn.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NEBOSH Rhithwir Ar-lein - Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol?

MPLA0145AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.