NEBOSH Rhithwir Ar-lein - Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-pla-nebosh.jpg)
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Dechreuwch ar eich taith rheoli iechyd a diogelwch a gwireddu eich gwir botensial gyda Thystysgrif Gyffredinol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Cwrs sylfaen cynhwysfawr yw hwn a gynlluniwyd i fod o fudd i bob dysgwr ym mhob cam o'u gyrfaoedd yn y maes iechyd a diogelwch.
Un o'r cymwysterau NEBOSH a dderbynnir y fwyaf gan gyflogwyr a chyrff proffesiynol mewn dros 180 o wledydd ledled y byd yw’r Dystysgrif Gyffredinol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Mae 87% o gyflogwyr y DU yn mynnu cwrs Tystysgrif Gyffredinol NEBOSH fel gofyniad. Cydnabyddir gan lawer bod y Dystysgrif yn gwella sgiliau iechyd a diogelwch a rheolaeth amgylcheddol. Mae'n cefnogi rheolwyr, goruchwylwyr a staff i wneud gwelliannau ac ennill gwybodaeth iechyd a diogelwch gynaliadwy.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Yn berthnasol i bob gweithle, mae Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr ac unrhyw un sydd â chyfrifoldebau rheoli iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn berffaith i'r rheini sy'n cychwyn ar yrfa iechyd a diogelwch ac mae'n darparu carreg gamu i lwyddiant.
Mae llawer o sefydliadau mawreddog fel Thames Water, Kier a'r Gymdeithas Bêl-droed yn ymddiried ynddi, a gellir helpu i:
- Leihau anafiadau a salwch yn y gweithle
- Hybu llesiant gweithwyr
- Dangos eich ymrwymiad i iechyd a diogelwch, a all ennill busnes
Uned NG1: Rheoli Iechyd a Diogelwch
Mae Rheoli Iechyd a Diogelwch NG1 yn canolbwyntio ar hanfodion craidd rheoli iechyd a diogelwch, gan danlinellu'r strategaethau a gynlluniwyd i weithredu system iechyd a diogelwch lwyddiannus yn y gweithle.
Uned NG2: Asesiad Risg
Modiwl Asesu Asesiadau Risg sydd yn canolbwyntio ar baratoi a chwblhau'r asesiad.
Mae'r cwrs yn cynnwys dau asesiad:
Uned NG1: Arholiad llyfr agored ar-lein
Uned NG2: Asesiad risg ymarferol yn seiliedig ar amgylchedd yn y gweithle.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, fodd bynnag mae’n bwysig bod dysgwyr yn deall Saesneg at safon briodol er mwyn deall a chyfleu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cwrs hwn ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Rhithwir/Ystafell Ddosbarth: 10 diwrnod a gyflwynir fel 2 wythnos ar wahân.
Noder bod arholiadau NEBOSH yn rhedeg ar ddyddiadau penodol drwy gydol y flwyddyn yn unig.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0144AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.