En

BPEC Rhan L (Effeithlonrwydd Ynni)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae cwrs hyfforddiant Effeithlonrwydd Ynni (Rhan L) wedi’i addau i gyd-fynd â gofynion plymwyr/gosodwyr systemau gwresogi a pheirianwyr nwy y mae angen iddynt hunan-ardystio eu gwaith trwy un o’r Cynlluniau Personau Cymwys (CPS) a’r rhai sy’n gweithio mewn eiddo newydd sbon ac eiddo presennol gan fodloni’r gofynion cydymffurfiaeth.

Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol o gymwysterau, asesiadau, cyrsiau hyfforddiant a deunyddiau dysgu a gydnabyddir gan ddiwydiant.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim a dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r uchafswm cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

... unrhyw un sy’n anelu at feithrin eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflenwi cartrefi carbon sero net.

Cynnwys y cwrs

Mae'r deunyddiau hyfforddiant ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Dogfen gymeradwy L, Cyfrol 1
  • CIBSE Domestic Heating Design Guide

Asesir Effeithlonrwydd Ynni (Rhan L) yn ôl arholiad aml-ddewis byr a fydd yn cynnwys ymarfer gollwng gwes a ffitio gwresogyddion.

Cwrs un dydd o hyd yw hwn.

Gofynion Mynediad

Dylai ymgeiswyr fod yn osodwyr systemau gwresogi canolog nwy, olew neu danwydd solet.

Byddai tystiolaeth/cadarnhad o brofiad yn ofynnol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel arfer, bydd tystysgrifau’n ddilys am 5 mlynedd.

Os caiff ei gwblhau y tu allan i Gyfrif Dysgu Personol, cost y cwrs hwn fydd £225 yr ymgeisydd.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BPEC Rhan L (Effeithlonrwydd Ynni)?

MPLA0133AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.