Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Dilyniant o Gategori C (Dosbarth 2)
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-pla-transport-hgv-lgv-ce-upgrade.jpg)
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i yrru cerbydau cymalog categori CE (Dosbarth 1) LGV, y categori cerbyd nwyddau mwyaf y gallwch ei gyflawni.
Cyfeirir yn gyffredinol at y cerbyd hwn fel lori gymalog, sydd fel rheol wedi ei gwneud o naill ai uned tractor gonfensiynol a threlar neu lori a threlar â bar tynnu arno (gwagen a cherbyd tynnu).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1 dros 2 ddiwrnod a hanner, yn cynnwys eich prawf ymarferol. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dysgu sut i wirio am ddiffygion, gyrru a symud cerbyd nwyddau mawr cymalog a dysgu i’w ddadfachu/ail-fachu’n ddiogel ac i’r safon ofynnol.
Mae dwy ran i’r prawf ymarferol:
- ymarfer symud cerbyd am yn ôl mewn 'siâp S' i fae llwytho
- gyrru ar y ffordd am 60 munud
Efallai y bydd angen i chi ddychwelyd er mwyn cwblhau eich cymhwyster Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr os nad oes gennych gerdyn dilys.
Gofynion Mynediad
Mae’n ofynnol bod gennych drwydded (Dosbarth 2) C LGV er mwyn ymrestru ar y cwrs hwn. Os nad oes gennych y drwydded hon, gweler Hyfforddiant Gyrwyr LGV CE (Dosbarth 1): Mynediad Uniongyrchol o Gar.
Nid oes angen i chi gwblhau unrhyw brofion meddygol ychwanegol i yrwyr, ceisiadau dros dro na phrofion theori.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd yr opsiynau hyfforddiant yn dibynnu ar le'r ydych chi'n byw.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0132AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.