En

Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Mynediad Uniongyrchol o Gar

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i yrru cerbydau cymalog categori CE (Dosbarth 1) LGV, y categori cerbyd nwyddau mwyaf y gallwch ei gyflawni.

Cyfeirir yn gyffredinol at y cerbyd hwn fel lori gymalog, sydd fel rheol wedi ei gwneud o naill ai uned tractor gonfensiynol a threlar neu lori a threlar â bar tynnu arno (gwagen a cherbyd tynnu).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.

Cynnwys y cwrs

Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1 dros 5 diwrnod, yn cynnwys eich prawf ymarferol. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dysgu sut i wirio am ddiffygion, gyrru a symud cerbyd nwyddau mawr cymalog a dysgu i’w ddadfachu/ail-fachu’n ddiogel ac i’r safon ofynnol.

Mae dwy ran i’r prawf ymarferol:

  • ymarfer symud cerbyd am yn ôl mewn 'siâp S' i fae llwytho + gallu arddangos y weithred o ddadfachu/ail-fachu yn ddiogel
  • gyrru ar y ffordd am 60 munud

Byddwch yn dychwelyd am ddiwrnod ychwanegol i gwblhau cymhwyster Modiwl 4 y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC), y byddwch ei angen ar gyfer defnyddio eich trwydded LGV at ddibenion gwaith.

Gofynion Mynediad

Cyn yr hyfforddiant ymarferol, bydd angen i chi:

  • gwblhau asesiad meddygol er mwyn gwneud cais am eich trwydded dros dro
  • llwyddo yn y profion theori LGV perthnasol

Trefnir yr elfennau hyn ar eich rhan.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd yr opsiynau hyfforddiant yn dibynnu ar le'r ydych chi'n byw.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Mynediad Uniongyrchol o Gar?

MPLA0126AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.