IMI Dyfarniad mewn Atgyweirio ac Ailosod Cerbyd Trydan/Hybrid Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae yna angen cynyddol am dechnegwyr modurol i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid a thrydan.
Bydd y cwrs hwn yn darparu'r ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio'n ddiogel ar systemau foltedd uchel sydd yn y ceir hyn.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... rheiny sy’n 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i’r cwrs hwn.
...unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ar hyn o bryd
...unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid/trydan
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn dysgu drwy ystod o weithgareddau dosbarth a gwaith ymarferol yn ein gweithdai sydd â chyfarpar gwerth chweil. Byddwch yn cael cyfle i weithio'n ymarferol gyda'n hystod o gerbydau trydan cyfoes.
Byddwch yn mynd i'r afael â:
- Gweithio'n ddiogel ar gerbydau gyda systemau foltedd uchel
- Gweithio'n ddiogel yn ystod cynnal a chadw arferol cerbydau hybrid/trydan
- Ailosod cydrannau mewn systemau foltedd uchel cerbydau hybrid/trydan.
- Trin cerbydau sydd â difrod i'r systemau foltedd uchel
Cewch eich asesu drwy:
- Arholiad Ysgrifenedig
- Asesiad ymarferol
Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid / Trydan Lefel 3
Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs ar gyfer technegwyr sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ac yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu gyfwerth.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol o weithio gyda cherbydau hybrid/trydan.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae ceir yn prysur gynyddu i fod yn rHai sy'n defnyddio trydan, a bydd gofynion Iechyd a Diogelwch ynddynt eu hunain yn gofyn ichi fod yn wybodus am ddiogelwch pawb.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ichi yn yr holl systemau cerbydau trydan sydd angen gofal ychwanegol a gwybodaeth arbenigol, a byddwch yn magu hyder a'r gallu i ddelio'n ddiogel ac effeithiol gyda phob math o gerbydau sy'n ymgorffori Systemau Foltedd Uchel.
Mae'r cwrs fel arfer yn redeg dros 2 ddiwrnod.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0123AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.