En

IMI Dyfarniad mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid/Trydan Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.

Mae yna angen cynyddol am dechnegwyr modurol i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid a thrydan.

Bydd y cwrs hwn yn darparu'r ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio'n ddiogel ar systemau foltedd uchel sydd yn y ceir hyn.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... rheiny sy’n 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn

...unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ar hyn o bryd

...unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid/trydan

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn dysgu drwy ystod o weithgareddau dosbarth a gwaith ymarferol yn ein gweithdai sydd â chyfarpar gwerth chweil. Byddwch yn cael cyfle i weithio'n ymarferol gyda'n hystod o gerbydau trydan cyfoes.

Byddwch yn mynd i'r afael â:

  • Gweithio'n ddiogel ar gerbydau gyda systemau foltedd uchel
  • Gweithio'n ddiogel yn ystod cynnal a chadw arferol cerbydau hybrid/trydan
  • Ailosod cydrannau mewn systemau foltedd uchel cerbydau hybrid/trydan.
  • Trin cerbydau sydd â difrod i'r systemau foltedd uchel

Cewch eich asesu drwy:

  • Arholiad Ysgrifenedig
  • Asesiad ymarferol

Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid / Trydan Lefel 2

Neu yn dilyn asesiad ymarferol pellach:

  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid / Trydan Lefel 3

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs ar gyfer technegwyr sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ac yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu gyfwerth.

Does dim angen gwybodaeth flaenorol o weithio gyda cherbydau hybrid/trydan.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ceir yn prysur gynyddu i fod yn rHai sy'n defnyddio trydan, a bydd gofynion Iechyd a Diogelwch ynddynt eu hunain yn gofyn ichi fod yn wybodus am ddiogelwch pawb.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ichi yn yr holl systemau cerbydau trydan sydd angen gofal ychwanegol a gwybodaeth arbenigol, a byddwch yn magu hyder a'r gallu i ddelio'n ddiogel ac effeithiol gyda phob math o gerbydau sy'n ymgorffori Systemau Foltedd Uchel.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio IMI Dyfarniad mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid/Trydan Lefel 2?

MPLA0122AA
Campws Dinas Casnewydd

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.