CompTIA Rhithiol Ar-lein - Cwrs CompTIA A+ (Cyfres Graidd 220-1001 a 220-1002) Hyfforddiant gyda Labiau Byw ac Arholiadau
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
CompTIA yw corff ardystio TG niwtral o werthwyr mwyaf y byd. Mae'r cwrs CompTIA A+ wedi ei ddylunio'n benodol ar gyfer unigolion sydd eisiau cychwyn gyrfa yn y sector TG.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu datrys problemau'n hyderus, gyda'r gallu i gefnogi technolegau craidd cyfredol o'r cwmwl a phrosesau diogelwch i reoli data.
Pa un ai eich bod yn Dechnegydd TG sydd eisiau diweddaru eich gwybodaeth bresennol, neu'n newydd i'r cyfan ac eisiau symud i mewn i'r diwydiant TG am y tro cyntaf, bydd y cwrs yn ddelfrydol i chi.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn.
...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector TG.
... unrhyw sydd eisiau dechrau neu ddatblygu ei yrfa ym maes TG.
Cynnwys y cwrs
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.Hyd y Cwrs: 5 diwrnod
Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:
Cwblhau pecyn cwrs dysgu rhyngweithiol sy'n paratoi myfyrwyr i sefyll arholiadau CompTIA A+ 220-1001 a 220-1002. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cyrsiau ac arholiadau:
- Gliniaduron, cyfrifiaduron bwrdd gwaith, ffonau clyfar, llechi, technoleg wisgadwy, e-ddarllenwyr, GPS
- Windows 10, 7, 8, 8.1, Android, iOS, Linux, Mac OS X, Chrome OS
- Cysylltedd rhwydwaith dyfeisiau symudol, cymorth cymwysiadau a chysoni dyfeisiau
- Rhwydweithio dyfeisiau caledwedd (Llwybryddion, switshis, pwyntiau mynediad, rheolwr rhwydwaith seiliedig ar y cwmwl, PoE (Pwer dros Ether-rwyd), ac ati)
- Gwesteiwyr rhwydwaith, rôl gweinydd, offer Rhyngrwyd, systemau etifeddol
- Offer a chydrannau caledwedd PC, gosodiadau BIOS/UEFI, gyriannau cyflwr solid (M2, NVME, SATA 2.5), RAID 10, ffurfweddau storio cyfnewidiadwy poeth
- Cyfluniadau PC personol gan gynnwys gweithfannau rhithwiroli a dyfeisiau NAS
- Rhannu dyfeisiau ac argraffwyr amlswyddogaeth trwy osodiadau OS, cysylltiadau â gwifrau a diwifr, argraffu 3D
- Cysyniadau diogelwch rhesymegol, gosodiadau diogelwch Cyfeiriadur Actif, tocynnau meddalwedd, polisïau Rheoli Dyfeisiau Symudol (MDM), hidlo cyfeiriad MAC, tystysgrifau, Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN), Atal Colli Data (DLP), hidlo e-byst
- Protocolau diogelwch ac amgryptio (WEP, WPA, WPA2, TKIP, AES), dulliau dilysu (un ffactor, aml-ffactor, RADIUS, TACACS), adnabod ac atal bygythiadau diogelwch
- Pryderon a pholisïau preifatrwydd (PII, PCI, GDPR, PHI)
Bydd dau Arholiad CompTIA A+
Gofynion Mynediad
Bydd angen 9 i 12 mis o brofiad ymarferol yn y labordy neu'r maes. Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad o amser sydd ei angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0081AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.