En

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Yn fras

Nod y cymhwyster hwn yw cyflwyno dysgwyr i bynciau newid yn yr hinsawdd, sero net, cynaliadwyedd a’r amgylchedd.

Bydd y wobr hon yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth sylfaenol o Gynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd. Gall fod yn fan cychwyn ar gyfer dilyniant gyrfa lle gall dysgwyr ddatblygu ymhellach i weithio mewn rolau proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r economi werdd.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gyrchu cyrsiau rhan-amser, am ddim a dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r uchafswm cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

... unrhyw un sy’n dymuno deall ymarferion ar gyfer gweithio’n gynaliadwy mewn rôl benodol, rôl yn y dyfodol a hyfforddiant parhaus.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr (beth bynnag eu sector astudio) i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r termau ‘amgylchedd’, ‘cynaliadwyedd’, ‘newid yn yr hinsawdd’ a ‘sero net’, am eu bod yn ymwneud â dyfodol gwyrdd.

Bydd dysgwyr yn archwilio:

  • diffiniadau, categorïau, cyfansoddion ac effeithiau dynol ac effeithiau nad ydynt yn rhai dynol ar yr amgylchedd
  • diffiniadau, pileri, actorion a thechnolegau gwyrdd sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd
  • pynciau nwyon ty gwydr, ffynonellau, targedau a’u heffeithiau ar newid yn yr hinsawdd
  • y cyd-destun carbon, ôl troed carbon, yn ogystal â pholisi cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer sero net

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn ond mae diddordeb brwd yn y pwnc yn hanfodol. 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ?

MPLA0044AA
Campws Crosskeys

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

MPLA0044AA
Campws Crosskeys

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.