En

CITB Cynllun Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Safle (SEATS)

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Adeiladu

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer rhai sy'n ceisio ennill gwybodaeth ynghylch deddfwriaeth berthnasol ac agweddau eraill o'r amgylchedd yn y diwydiannau adeiladu, adeiladwaith a pheirianneg sifil.  Bydd yn darparu ymgeiswyr gyda dealltwriaeth eang o'r amgylchedd a'r problemau mae safleoedd adeiladu yn eu hwynebu.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

 ... rhai sydd wedi ennill cyfrifoldebau goruchwylio ar y safle, neu a fydd yn gwneud hynny.

... rhai sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth ynghylch problemau amgylcheddol o fewn adeiladwaith a pheirianneg sifil.

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs 1 diwrnod hwn yn cynnwys:

  • Amddiffyn yr amgylchedd drwy ddarpariaethau cyfreithiol.
  • Amddiffyn yr ecosystem - perthnasoedd ac ymwneud rhwng  anifeiliaid, planhigion ac organebau a'u hamgylchedd.
  • Systemau a phrosesau rheoli'r amgylchedd er mwyn lliniaru niwed i'r amgylchedd.
  • Dulliau o leihau diflastod ac aflonyddu statudol i gymdogion.
  • Y traweffaith mae archaeoleg a threftadaeth yn ei gael ar adeiladwaith.
  • Rheoli'r defnydd a wneid o ddŵr a lleihau'r effaith mae adeiladwaith yn ei gael ar gyflenwadau dŵr.
  • Rheoli mesurau atal systemau dŵr rhag cael eu llygru.
  • Adnabod pren o ffynonellau moesol drwy'r weithdrefn ddogfennu, olrhain ac amddiffyn y coed sy'n cael mynediad i'r safle.
  • Rheoli llygredd ar safleoedd tir llwyd.
  • Gwasgaru a gwaredu gwastraff yn y ffordd gywir.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag y mae wedi cael ei ddatblygu ar gyfer goruchwylwyr adeiladwaith felly dylid rhoi ystyriaeth iddo cyn gwneud cais.

Mae'n bosib y bydd ymgeiswyr yn dymuno cwblhau Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylio Safle (SSSTS) neu Gynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS) yn gyntaf.

Mae'n rhaid i fynychwyr fod yn rhugl yn y Saesneg ar lefel goruchwyliwr safle.

Gwybodaeth Ychwanegol

Caiff ei ddarparu drwy ystafell ddosbarth rithiol; fodd bynnag gellir trefnu hyfforddiant ar y safle ar gyfer gweithwyr os gwneir cais am hynny.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CITB Cynllun Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Safle (SEATS)?

BCEM0049AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.