En

IOSH Rheoli'n Ddiogel

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Adeiladu

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Os ydych chi'n rheolwr neu'n oruchwyliwr, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i roi egwyddorion rheolaeth gadarn ar waith gyda materion diogelwch ac iechyd o fewn eich tîm fel rhan o strategaeth reoli gyflawn. Gan ei fod yn gwrs modiwlaidd ei natur, gall gael ei deilwra i gwrdd â'ch anghenion busnes unigol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... rheolwyr o unrhyw sefydliad neu sector sydd angen rheoli'n effeithlon ac effeithiol yn unol â pholisi diogelwch eu sefydliad a deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs yn cymryd 3 diwrnod (22awr) i'w gwblhau, a bydd yn eich helpu i:

  • Gymhwyso egwyddorion ac arferion i faterion iechyd a diogelwch.
  • Gosod nodau iechyd a diogelwch ymarferol a bod yn gallu cynllunio a rhoi cyrsiau ar waith er mwyn cyflawni'r nodau hynny.
  • Adnabod risgiau sy'n bodoli yn y gweithle a bod yn gallu dewis mesurau rheoli priodol.
  • Cymryd i ystyriaeth y risgiau a achosir gan ffactorau dynol.
  • Sicrhau bod gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth addas yn cael eu darparu o fewn y gweithle.
  • Ymchwilio pob digwyddiad sy'n ymwneud â niwed neu ddifrod i benderfynu'r achosion a chymryd camau adferol.
  • Cyfathrebu'n effeithiol ar faterion iechyd a diogelwch gydag aelodau o staff hŷn, pobl yn y gwaith a gweithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch

Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio papur prawf aml-ddewis ac atebion byr o 25 cwestiwn a phrosiect ymarferol, ac yn dilyn hynny byddwch yn derbyn tystysgrif Rheoli Diogel Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH).

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond disgwylir i ymgeiswyr fod â lefel dda o Saesneg.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio IOSH Rheoli'n Ddiogel ?

BCEM0048AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.