En

Paratoi Bwydydd Sydd A'u Hansawdd wedi newid: Maeth a Gwasanaeth

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae'n bosib bod unigolion sy'n derbyn gofal angen bwyta deiet gydag ansawdd y bwyd wedi'i addasu oherwydd eu bod yn gyffredinol wael, a hynny drwy ddewis personol neu oherwydd bod ganddynt anawsterau llyncu - a heb gyfaddawdu ar urddas na dewis person.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i gogyddion, timau arlwyo, gofalwyr tai, rheolwyr cartrefi gofal, gofalwyr, nyrsys cofrestredig neu unrhyw un a allai fod yn ymwneud a pharatoi, coginio a darparu bwyd i breswylwyr sydd mewn peryg.

Cynnwys y cwrs

Gall dysgwyr ddisgwyl cwmpasu amrywiaeth o theorïau, polisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad i hyfforddiant a mentora. Mae'r Unedau'n cynnwys:

● Diffinio beth yw deiet sydd wedi'i addasu.
• Disgrifio’r gwahanol lefelau o fwydydd sydd wedi'u haddasu.
● Trafod sut i wneud bwydydd sydd wedi'u haddasu yn flasus ac yn faethlon.
● Adnabod enghreifftiau o fwyd sy'n ddiogel i'w haddasu.
● Egluro hylendid diogel wrth baratoi bwydydd sy'n cael eu haddasu.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu'r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.

Mae hwn yn gwrs hanner diwrnod o hyd. Gellir darparu amcangyfrif ffurfiol unwaith rydym yn deall eich anghenion o ran hyfforddiant, ond fel canllaw, rydym yn codi £275 (sy'n cynnwys yr holl gostau).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Paratoi Bwydydd Sydd A'u Hansawdd wedi newid: Maeth a Gwasanaeth?

BCEM0044AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.