En

ILM Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol Lefel 5

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Darparu dysgwyr gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol er mwyn hyfforddi neu fentora eraill yn effeithiol o fewn cyd-destun sefydliadol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Mae'r cymwysterau hyn ar gyfer rheolwyr a'r rhai sydd â chyfrifoldeb sylweddol am hyfforddi a mentora effeithiol fel rhan o'u rôl ddyddiol o fewn cyd-destun sefydliadol.

Maent hefyd yn addas ar gyfer unigolion sy'n dymuno symud i rôl ddatblygu neu ddechrau gyrfa fel hyfforddwr neu fentor.

Cynnwys y cwrs

Gall dysgwyr ddisgwyl cwmpasu amrywiaeth o theorïau, polisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad i hyfforddiant a mentora. Mae'r Unedau'n cynnwys:

  • Deall y Sgiliau, Egwyddorion ac Arfer Hyfforddi a Mentora Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol.
  • Deall y Sgiliau, Egwyddorion ac Arfer Hyfforddi a Mentora Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol.
  • Adolygu eich Gallu eich hun fel Hyfforddwr neu Fentor o fewn Cyd-destun Sefydliadol

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu'r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.

Mae'r tair uned yn cael eu darparu dros saith diwrnod. Gellir darparu amcangyfrif ffurfiol unwaith rydym yn deall eich anghenion o ran hyfforddiant, ond fel canllaw, rydym yn codi £6,000 (sy'n cynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) yn ogystal â ffioedd corff dyfarnu ychwanegol (oddeutu £169 am bob dysgwr).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio ILM Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol Lefel 5?

BCEM0042AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.