En

Highfield Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Gweithgynhyrchu Lefel 2

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod bod diogelwch bwyd yn gyfrifoldeb ar bawb sy'n ymwneud â storio, paratoi, coginio, gweini a thrin bwyd. Mae ei bynciau yn cael eu hystyried gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel rhai sy'n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Amcan y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth fel rhywun sy’n trin bwyd ac sy'n gweithio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu, neu sy’n cefnogi rôl yn y gweithle. 

Cynnwys y cwrs

Mae'r pynciau ar y cymhwyster 7 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:   

-Pa mor bwysig yw hi i’r sawl sy’n trin bwyd gadw eu hunain yn lân ac yn lanwaith.  

-Cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn lanwaith.  

-Pwysigrwydd cadw cynnyrch bwyd yn ddiogel. 

- gwyddorion diogelwch bwyd.  

 Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis. 

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.  

Mae hwn yn gwrs undydd. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi, ond fel canllaw, rydym yn codi £475 (sy’n cynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd cyrff dyfarnu ychwanegol (tua £14 y dysgwr). 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Highfield Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Gweithgynhyrchu Lefel 2?

BCEM0036AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.