En

Highfield Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Gweithgynhyrchu Lefel 3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn deall y gofynion ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelwch bwyd a gweithdrefnau rheoli. Yn ogystal, gallant gymhwyso a monitro arfer da o ran halogiad, rheoli tymheredd, hylendid personol a glanhau. Mae ei bynciau’n cael eu hystyried gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel rhai sy'n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i lefel uwch neu sydd ar lefel oruchwylio o fewn busnes gweithgynhyrchu bwyd. 

Cynnwys y cwrs

Mae'r pynciau ar gyfer y cymhwyster 20 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:

• Gofynion ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelwch bwyd a gweithdrefnau rheoli.

• Monitro a chymhwyso arferion da.

• Halogiad, rheoli tymheredd, hylendid personol a glanhau.

Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. 

Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.  

Mae hwn yn gwrs tri diwrnod. Bydd  dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond fel canllaw, rydym yn codi £1,425 (sy’n cynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd cyrff dyfarnu ychwanegol (tua £50 y dysgwr). 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Highfield Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Gweithgynhyrchu Lefel 3?

BCEM0035AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.